Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wedi yfed o'i dyfroedd, rhoddant ddarn o arian yn y cwpan, gan gredu y sicrha hyn iddynt daith lwyddiannus a dychweliad diogel. Y mae ffynhonellau ereill o ba rai y cyflenwir y ddinas â dwfr, a beth bynnag ydyw cwynion dinasoedd ereill yma a thraw ar hyd y byd oherwydd prinder dwfr, sicr yw fod Rhufain, o leiaf, uwchben ei digon.

Mangre ddyddorol dros ben ydyw y Fforum. Enw ydyw hwn ar adfeilion hen demlau paganaidd adeiladwyd o bryd i bryd er anrhydeddu gwahanol Ymherawdwyr a duwiau. Yr oeddynt, nid yn unig yn lleoedd i addoli y duwiau paganaidd ynddynt, ond defnyddid hwy hefyd i gynnal llysoedd barn. Er engraifft, yma y gwelir adfeilion "Caesar's Forum." Dyma yr areithle lle yr eisteddai Areithfa Cesar. Cesar i wrandaw apel yr Apostol Paul. Treuliasom awr ddedwydd ar brynhawn Saboth dan gysgod colofnau adfeiliedig areithle Cesar, gyda'r wers am y dydd yn y Maes Llafur yn Efengyl Ioan ac Esboniad Cynddylan. Pedwar oedd ohonom,—arolygwr, ysgrifennydd, trysorydd, ac athraw. Fe ddichon mai dyma yr Ysgol Sabothol Gymreig gyntaf a gynhaliwyd erioed yn Rhufain, ond digon posibl mai nid yr olaf. Cafwyd dosbarth fel hyn bob Saboth ar hyd y daith, a gwnaed casgliad bob tro, a chyflwynwyd y cyfanswm i drysorydd y Fam Ysgol ar ein dychweliad.

Digwyddais fynd heibio i Swyddfa y Feibl Gymdeithas. Dyma beth rhyfedd i feddwl am dano,