onide? Perffaith ryddid i werthu Gair Duw yn Rhufain o bob man; a mwy na hynny, Cymro, y pryd hynny, yn brif arolygwr dros y Fam Gymdeithas, sef Mr. John Thomas, brodor o Y Feibl Gymdeithas,
—Cymro eto.Feirion. Gwelais yn y ffenestr hysbysiad fod Testamentau i'w cael ym mhob iaith. Aethum i mewn, a gofynnais am Destament Cymraeg, ond nid oedd yno y fath beth; ac er fy mawr siomedigaeth, nid oedd y Cymro ar gael ychwaith,—yr oedd wedi mynd ar daith Saboth i efengylu i'r cenhedloedd, yn ddiau.
Gerllaw y Fforum, saif Eglwys fechan o'r enw Sant Joseph. Odditani y mae hen gelloedd tywyll, aflan. Dywed hanes mai yn y celloedd hyn y carcharwyd Pedr. Yr hyn sydd ryfedd ydyw, fod, ynghanol yr aflendid a'r tywyllwch, ffrwd o ddwfr grisialaidd yn byrlymu yn ddibaidChwedl ryfedd
am Pedr. o waelod y gell. Y traddodiad ydyw i Pedr, tra yn garcharor, orchymyn i'r dwfr ffrydio o'r graig i'r diben iddo ei gael i fedyddio y milwyr oeddynt yn ei wylied, y rhai, wedi iddo bregethu iddynt, a edifarhasant ac a gredasant, ac a fedyddiwyd Dyna'r chwedl. Hyn a wn i, ac a welais i, y mae y gell dywell yno, a'r ffrwd loew, lân, hefyd.
O, hen adeilad ardderchog!—Y Pantheon. Cysegredig i'r "Holl Dduwiau,"—dyna ei ystyr. Dyma