Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr unig hen adeilad yn Rhufain sydd wedi cadw ei ddechreuad. Y mae hwn yr un fath a phan yr adeil— adwyd ef, 35 c.c. Teml baganaidd ydoedd ar y cyntaf i'r Saith Seren, sef Apollo, Diana, Mercurius, Venus, Mars, Jupiter a Saturn. Cynhygiwyd lle i'r Arglwydd Iesu yn y Pantheon, Y Pantheon. ond gwrthodwyd, gydag ysgorn, gan y Cristionogion, osod delw o'u Gwaredwr yno. Yn y flwyddyn 609 daeth i feddiant y Babaeth, fel y mae ambelli addoldy Protestanaidd Ymneilltuol yn dyfod i'w meddiant yng Nghymru y dyddiau hyn. Nid oes i'r adeilad ffenestri yn y muriau, daw y goleuni oll drwy gromen ardderchog sydd yn agos i hanner can llath o uchter, ac y mae yr effaith yn brydferth tuhwnt i bob desgrifiad.

Y distawrwydd, y tawelwch, yr ymdeimlad o berffaith ddiogelwch, ac amddiffyniad rhag twrf a therfysg y byd oddiallan. Bron na ddychmygwn fod yn llanw y lle ryw ysbryd mawr diddan, yn sisial mewn llef ddistaw, fain,—" Deuwch yma bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog, a chwi a gewch orffwystra i'ch eneidiau." Yma y dygir gweddillion marwol enwogion Itali i orffwys mewn hedd ac anrhydedd. Y Pantheon ydyw Westminster Abbey Rhufain. Y mae yn yr hen ddinas 300 o Eglwysydd, ac i bob un ei hanes a'i thraddodiadau swynol. Rhydd hyn ryw syniad egwan am yr amrywiaeth di-dorr o destynau dyddorol y byddai yn hawdd ymhelaethu arnynt.