Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwmlwythog o ddrygsawr gwenwynig. Fe welir y tad, y fam, a'r plant, y dofednod, yr afr, y ci, a'r gath, oll yn cydfwyta ac yn cydorffwys ar y llawr pridd. Nid oes ganrif yn hanes yr ardal hon heb ei phläau a'i daeargrynfäau.

Cyffelyb yw hanes Catania, porthladd pwysig arall gyda phoblogaeth o 120,000. Saif drigain milltir i'r dehau o Messina, ac o fewn deng milltir i droed y mynydd tanllyd Etna. Uchter y mynydd hwn ydyw 10,642 o droedfeddi, deirgwaith ynCatania.uwch na'r Wyddfa Wen fawr. Y mae eira i'w ganfod ar rannau uchaf ei lethrau wyth neu naw mis o'r flwyddyn, er fod ei grombil yn llosgfeydd dibaid, a mŵg a tharth a thân beunydd yn esgyn o hono. Y mae coed olewydd, coed castan (chestnut)Etna yn tyfu ac yn ffrwytho yn ddibrin arno, hyd hanner y ffordd i'w gopa. Yr oedd yn fy mryd ei ddringo, er gweld codiad yr haul, un o'r golygfeydd ardderchocaf o fewn y greadigaeth; ond nid oedd yr hin yn caniatau. Cymer ffrwydriadau enbyd le yn. fynych,—y lafa yn ffrydiau o dân yn dylifo o fynwes y mynydd rhyfedd, gan ysgubo a difa popeth o'i flaen, ac y mae Catania a'r pentrefydd cylchynol wedi, ac yn dioddef yn erchyll o'r herwydd.

Ryw ddeng milltir ar hugain i'r dehau o Catania, y mae Ynys enwog Syracusa, nad yw ond ychydig o