Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bellter o'r tir. Ei phoblogaeth ydyw 25,000; ar un adeg bu yn 500,000; ac am gyfnod hi ydoedd prif ddinas a phorthladd Sicily,—Syracusabyddai pob llong o bwys o'r dwyrain yn galw yma. Y mae son am hon yn Llyfr yr Actau xxviii. 11-14, sef yn hanes taith yr Apostol Paul o Melita (Malta) i Rufain, ac iddo aros yn Syracusa dridiau, a hwylio oddiyno i Rhegiwm (Reggio heddyw), sef porthladd gyda rhyw ddeuddeng mil o boblogaeth; saif yr ochrRhegiwm.arall i'r Culfor, bron ar gyfer Messina, y pellter rhyngddynt ryw chwe milltir, ac y mae agerlongau bychain yn hwylio yn fynych ac yn gyson rhwng y ddau borthladd. O Reggio, neu Rhegiwm, aeth yr Apostol ymlaen i Puteoli, neu fel y gelwir heddyw, Pozzuoli, tref fechan ychydig fill— tiroedd o Naples. Yn nyddiau yr Apostol Paul, yr oedd yn llePuteoli. pwysig iawn, ac yn ganolbwynt y drafnidiaeth a'r fasnach o wlad y dwyrain; arhosodd yr Apostol yma saith niwrnod, ac yna aeth ymlaen i Rufain.

Prif ddinas Sicily yn awr ydyw Palermo; y mae ei phoblogaeth oddeutu Palermo.250,000. Lle hynod ddymunol ydyw hwn i dreulio ychydig ddyddiau ynddo. Hinsawdd hyfryd, amgylchoedd rhamantus, ac amrywiaeth ddidorr o wrthrychau dyddorol i ymwelwyr ymchwilgar, ond ni oddef gofod i mi ymhelaethu