music, music; Cambria, music, music; very good, very good." Byth nid anghofiwn y noson gyda'r hen grythor yn Palermo.
Y mae lliaws o fân ynysoedd o ddyddordeb mawr ar dueddau Itali ym Môr y Canoldir; ac nid lleiaf yn eu plith yn yr ystyr hwnnw ydyw Caprera, hen gartref Garibaldi. Ar gais y teithwyr, gwyrodd y capten ychydig o'i gwrs cyffredin er Caprera. mwyn i ni gael cipolwg ar y fangre lle y gorffwys gweddillion marwol un o arwyr hynotaf Itali. Yr wyf yn cofio pan yn blentyn ieuanc iawn, fod fy mam, yr hon oedd y pryd hynny yn cario ymlaen fasnach yn y Bala, yn cael cist o bethau melys oddiwrth gwmni John Dodd, Caerlleon. Mr. R. J. Davies oedd yn cyn— rychioli y cwmni, ac y mae efe eto yn fyw ac yn iach. Ymhlith y nwyddau yn y gist, yr oedd teisennau newydd spon,—nid oeddym erioed wedi gweld eu tebyg o'r blaen,— a'r enw arnynt ydoedd "Garibaldi" Garibaldi
Biscuits.Eglurodd fy mam mai enw dyn mawr, rhyfelwr gwrol, ydoedd Garibaldi, a'i fod y pryd hynny yn ymladd dros ryddid ei wlad a'i genedl. Ei fod ef a phob un o'i ganlynwyr yn gwisgo crys coch, a het jim crow gyda chantal mawr.
Anghofiais i byth ystori fy mam am Garibaldi, ac nid anghofiais ychwaith y "Garibaldi Biscuit," i mi hyd y dydd hwn nid oes dim mwy blasus ac