iachus. Wedi ymladd nes cael Victor Imanuel yn deg ar yr orsedd yn Rhufain, ac ysigo pen y Pab, ymneilltuodd Garibaldi i Caprera. Ynys fechan ydyw, chwe milltir o hyd wrth ddwy filltir o led. Prynnwyd hi gan nifer o'i edmygwyr yn y wlad hon, a chyflwynwyd hi yn rhad rodd iddo, ac yno y trigodd yn ddedwydd nes ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes. Claddwyd ei weddillion yn ei ardd gerllaw y tŷ. Cyn hir wedi ei farwolaeth, gwerthwyd yr Ynys gan ei deulu i Lywodraeth Itali. Wrth feddwl am Itali, y mae geiriau Arglwydd Byron yn dod yn brofiad byw i mi,—
"Thou art the garden of the world, the home
Of all art yields, and nature can decree;
Even thy desert, what is like to thee?
Thy very weeds are beautiful; thy waste
More rich than other climes' fertility;
Thy wreck a glory; and thy ruin graced
With an immaculate charm: which cannot be defaced.".
"Tydi yw gardd y byd, Italia dlos,—cartref
Holl gynhyrchion celf a natur yn gytun;
Digymar yw dy anial di; mor brydferth yw
Dy chwyn; a'th garnedd di cyfoethocach
Yw na holl ffrwythlondeb hinsoddau'r byd i gyd;
Mae swyn pereiddiol yn dy adfail bery byth."
ON.—Fe wnaed crybwylliad yn y tudalennau hyn am Messina a Reggio (Rhegiwm). Llwyr ddinistriwyd y ddau le yn 1783. Pan ymwelodd yr awdwr a hwynt, yr oeddynt yn llawn bywyd a phrysurdeb. Wedi hynny, dioddefodd y ddau le yn dost oddiwrth ddaeargryn, 1894. Wele eto y flwyddyn ddiweddaf, 1908, y ddwy dref wedi eu llwyr ddymchwel i'r llwch. Beth fydd eu dyfodol?