Tudalen:Griffith Ellis Bootle Cymru Cyf 23 1902.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle.

Griffith Ellis, Bootle

(Erthygl o Cymru Cyfrol 23, 1902 tud 164 i 166 Cylchgronau Cymru—Llyfrgell Genedlaethol Cymru[1])

UN o feibion glân Meirionnydd ydyw y Parch. Griffith Ellis, M.A. Fe'i ganwyd yn Aberllefeni, ym mhlwyf Tal y Llyn. Ei rieni oedd Griffith a Marged Ellis. Teulu hynod oeddynt o ran eu duwioldeb. Barn eu hardalwyr am danynt oedd mai Israeliaid didwyll oeddynt. Yr oedd Marged Ellis, yn ôl pob tystiolaeth, yn debyg iawn i Mary Lewis y sonnir am dani yn "Rhys Lewis." Fe anwyd dau o feibion i Grinith a Marged Ellis, ond bu farw y cyntaf-anedig pan yn ddwy flwydd a hanner oed. Ar ôl ei farwolaeth ef y ganwyd Griffith Ellis. Erbyn hyn efe oedd yr unig blentyn, a hawdd yw credu ddarfod i farwolaeth y cyntaf beri i'w rieni ddyblu eu hanwyldeb at yr ail. Felly y bu, yr oedd fel cannwyll eu llygaid. Estynasant iddo bob mantais oedd yn ddichonadwy iddynt hwy wneyd y pryd hynny. Yr oedd y ddau wedi dymuno, yn wir wedi penderfynu hyd eithaf eu gallu, dwyn y mab i fyny yn ofn yr Arglwydd, ac os yn bosibl yn weinidog yr efengyl. Cawsant eu dymuniad yn y naill a'r llall.

Yr ysgol ddyddiol gyntaf yr aeth iddi ydoedd yr un a gynhelid yng nghapel y Methodistiaid yn agos i'w gartref; nid oedd yr un arall i'w chael ar y pryd. Yr oeddynt yn hwylio i adeiladu yr Ysgol Frytanaidd honno rhwng Aberllefeni a Chorris, ac er nad oedd Griffith Ellis ond pump oed, y mae ganddo gof am yr amgylchiad. Yr oedd yn bresennol pan oedd- ŷnt yn gosod ei charreg sylfaen. Byddwn yn dychymygu ei weled yn sefyll ar ei phen, gan ddweyd,¬-‘"Trwy dy osod ti i lawr y dyrchefir fi." Dychymyg yw hyn wrth gwrs; ond daeth yn ffaith serch hynny. Wedi gorffen ei hadeiladu symud- odd Griffith Ellis o ysgol y capel i'r ysgol newydd. Ysgol ydoedd hon a wnaeth les dirfawr yn yr ardaloedd hynny. Yr athrawon y bu Griffith Ellis o danynt foreu ei oes oedd Thomas Nicholas, Thomas Williams, a'r Parch. Ebenezer Jones, Y mae ganddo le mawr yn ei serchiadau i'r oll o honynt.

Yn yr adeg foreuol hon y mae yn colli ei dad. Colled fawr ydoedd hon iddo ef a'i fam. Ond, yn ôl arfer Rhagluniaeth fawr y nef, fe wnaed y golled i fyny. Ond nid heb adael argraff ddofn ar feddwl Griffith bach. Nid oes dadl na ddisgynnodd ar y bachgen fantell yr hen broffwyd, a pharhaodd i'w gwisgo hyd heddyw, a diameu na ddiosga efe mohoni hyd nes y byddo yn cael ei wisgo â Chyfiawnder Crist."

Pan nad oedd eto ond un ar ddeg oed y mae yn gadael yr Ysgol Frytanaidd i fyned i weithio i'r chwarel. Bu yno am naw mlynedd. Ysgol dda iawn fu y chwarel iddo. Nid yn unig fe ddysgodd sut i hollti a thrin y llechi, ond dysgodd beth oedd anghenion y gweithwyr - dyma un o hanfodion gweinidog yr efengyl ac arweiniwr cenedl. Parod iawn ydym i gydnabod mamau Cymru am roddi meib- ion i'n harwain, ond yr ydym ni am roddi cydnabyddiaeth gref i hen chwareli a mwngloddiau Cymru hefyd. Y dynion goreu a fagodd Cymru yw y rhai hynny y daeth eu chwys i gysylltiad â llwch glo a llechi yr hen ddaear. Diolch i Dduw am y rhai hyn yn ogystal ag am famau duwiol Cymru. Yr ydym yn argyhoeddedig ein meddwl parthed ein gwrthrych, na fuase efe inni heddyw yr hyn ydyw oni buasai am naw mlynedd athrofaol yr hen chwarel. Amhosibl, bron, fuasai iddo wneyd cymaint dros addysg Cymru oni buasai iddo sylweddoli gwerth cyfundrefn addysg ei hunan pan yn y chwarel. Tra yno hefyd y daeth yr ysbryd pregethwrol i mewn

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru -Cylchgronau Cymru - Cymru Cyf 23 1902 tt 164-166