Tudalen:Griffith Ellis Bootle Cymru Cyf 23 1902.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo. Ar ddiwedd tymor addysgawl y chwarel, pan yn bedair ar bymtheg oed, y mae yn dechreu pregethu, a hynny ar gais neillduol yr hen flaenor duwiol Rowland Evans. Dyna y gŵr a gymerodd ei ofal gan ei arwain o flaen yr eglwys i dderbyn ei llais, yr hyn a roddwyd heb un eithriad. Yn 1863 mae ei achos ef ac achos y Parch. John Roberts (Bryniau Khassia yn awr), yn dod o flaen y Cyfarfod Misol. Derbyniwyd y ddau. A dyma ddechreuad y cyfeillgarwch rhwng Griffith Ellis a John Roberts, y rhai oeddynt fel Jonathan a Dafydd gynt. Yn 1865 aeth Mr. Ellis i'r Bala; bu yno am bedair blynedd. Ar ddiwedd ei efrydiaeth yno cawn iddo gael ei benodi yn athraw cynorthwyol, yr hyn ar unwaith oedd yn brawf o'i allu fel dysgawdwr.

Yn 1871 mae yn symud i Brifathrofa Rhydychen, ac nid ychydig o gefnogaeth a roddodd y Dr. Lewis Edwards iddo yn y symudiad hwn. Ymunodd â choleg goreu ac enwocaf Rhydychen, sef Coleg Balliol. Yno daeth i gyffyrddiad â dau o ŵyr hynotaf yr oes, sef Benjamin Jowett, pennaeth y Coleg, a T. H. Green, yr athronydd. Cofiai Jowett am Mr. Ellis, gydag edmygedd a pharch, hyd ddiwedd ei oes. Derbyniodd Mr. Ellis garedigrwydd nid bychan oddiar law Mr. Green hefyd, a bu yntau yn ddisgybl ffyddlon iddo. Haiarn a hoga haiarn, felly gwr wyneb ei gyfaill." Nid oes angen dweyd yn y fan hon i Mr. Ellis ddod allan yn llwyddiannus o'r athrofa hon eto. Cafodd anrhydedd nas gall neb ei dwyn hi oddiarno.

Yn 1873 y daeth i Bootle i gymeryd gofal yr eglwys yn Stanley Road. Yn 1875—a hynny yng Nghymdeithasfa y Bala, yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd ei fam yno, yn llygad-dyst o'r amgylchiad—y diwrnod hwnnw y llanwyd phiol ei dymuniadau hyd at yr ymylon, gweled ei hunig fab yn cael ei ordeinio yn weinidog i Iesu Grist. Ac nid peth bychan i galon mam weddw oedd edrych ar y weledigaeth fawr hon, nid rhyfedd fuasai i'w chalon hi lamu o lawenydd. Llawen yn wir ydoedd ei meddwl am yr unig dro iddi fod yn y Bala.

Daeth y gweinidog ieuanc yn fuan iawn yn un o ŵyr mwyaf blaenllaw a defnyddiol ei gyfundeb. Rhwng 1885 a 1887 bu yn ysgrifennydd y Gymanfa. Yn 1900 yr oedd yn Llywydd y Gymanfa, pryd y dangosodd fesur helaeth iawn o ddoethineb, amynedd, a gallu. Efe draddododd y gyntaf o Ddarlithiau Davies yn y Bala, gan gymeryd "Syched am Dduw" yn destun.

Wrth wasanaethu ei enwad a'i genedl, nid yw mewn un modd yn esgeuluso ei eglwys ei hun. Credwn na ddigia yr un o'r chwiorydd eglwysi yn y dref yma am i mi ddweyd fod eglwys Stanley Road mor flaenllaw a'r un, os nad yn fwy blaenllaw, mewn popeth perthynol i eglwys,- yn ei threfnusrwydd, yn ei chasgliadau, yn ei Hysgol Sul, Cyrddau Dirwestol, yr Ym- drech Grefyddol, &c. Am y gwaith cenhadol gall ddweyd yn hawdd, Nid wyf fi yn ôl i eglwysi eraill." Y mae yn ffaith hefyd i'r eglwys hon esgor ar dair o eglwysi eraill, y rhai y sydd heddyw yn anrhydedd i'r Cyfundeb, sef eglwysi Walton Park, Waterloo, a Peel Road, er pan ddaeth Mr. Ellis i Stanley Road.

Dyn prysur iawn ydyw Mr. Ellis os bydd yn y dref, anhawdd iawn ei gael yn y tŷ. Yn y dydd bydd mewn rhyw bwyllgor neu gilydd lawr dre," neu yn ymweled â'r cleifion. Y nos, wel, ddarllennydd—os bydd arnat ti eisieu ei weled—y ffordd oreu iti ydyw ei gwneyd hi tua chapel Stanley Road, ac os gweli di oleu o'i fewn gelli benderfynu mai yno y bydd ef, ac ar ôl i'r moddion ddarfod, yn hytrach nag aros yn yr oerfel—dos i mewn, bydd Mr. Ellis i mewn yn y Cyfarfod Darllen ar ôl y Seiat neu'r Cwrdd Gweddi, neu ynte bydd yn setlo rhyw faterion eraill gyda rhai o'r bobl ieuainc, neu yn dysgu iaith y Testament Newydd iddynt. Os na fydd moddion yn y capel y noson honno, dos i'w dy, hwyrach y cei ef i mewn newydd gyrraedd, ar ol bod mewn rhyw bwyllgôr neillduol; hwyrach mai mynd at ei swpera hwnnw yn hir-bryd iddo. Er heb fwyd ers oriau, fe erys awr yn hwy gyda thi os bydd angen i wrando dy neges. Y mae Mr. Ellis yn llenor campus a diwyd, tystied ei Hanes Bywyd Mr. Gladstone," ei Hanes Victoria," ei "Hanes Methodistiaid Corris ac Aberllefeni," a llu o lyfrau ac erthyglau ereill.

Gweithiwr caled gyda'r achos dirwestol yw Mr. Ellis. Y mae yn llwyrymwrthodwr. Cawn iddo ymuno â'r Gobeithlu pan nad oedd y gymdeithas fendithiol honno ond tair oed. Y mae wedi pregethu, areithio, ac ysgrifennu llawer ar