Tudalen:Griffith Ellis Bootle Cymru Cyf 23 1902.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddirwest. Cofus gennym pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yma, yn 1881, gwnaed cais gan y tafarnwyr, fel arfer, i gael gwerthu diodydd meddwol o fewn y babell. "Na," ebai Mr. Ellis "ni ddeui di i halogi ein Heisteddfod." Gwnaed cynygiad o £ 25 o wobr gan berchennog chwareudy i Bwyllgor yr Eisteddfod; bu cryn ymdrechfa, ond fe'i gwrthodwyd, a gwn fod Mr. Ellis yn un o'r rhai mwyaf yn erbyn y naill a'r llall o'r anghysonderau hyn.

Nid oes yn Mr. Ellis ddim culni sectol na chenedlaethol. Cydweithia, cyd-bregetha â phawb a wnel ddaioni. "Ein gweinidog mwyaf cynrychioladol ac enwog, ebe'r Free Church Chronicle am dano.

Fel y nodwyd ar y dechreu,—fe anwyd Mr. Ellis yn 1844, felly yr oedd yn hogyn rhwng pymtheg ac un ar bymtheg oed yn Niwygiad 1859 ac 1860, a hawdd iawn rhoddi cyfrif am y llinell uniawn a gerddodd ar hyd y blynyddau pan gofiom am y rhieni duwiol, ac am y derbyn yn helaeth o Ddiwygiad 1859. Mae yn demtasiwn gref inni ddyfynnu rhan o'r llythyr a anfonodd at y Parch. Josiah Thomas, yr hwn a welir yn nechreu Cofiant Dr. Owen Thomas.

Yr oedd wyth neu ddeg o honom ni wedi cychwyn adref o gyfarfod pregethu a gynhaliwyd yn Nolgellau yn 1863, pryd y pregethwyd gan y Parchn. O. Thomas, Saunders, H. Rees, gyda'n gilydd ar ôl yr oedfa. Ac yr oeddym oll yn rhai wedi teimlo yn ddwys oddi wrth Ddiwygiad '59 a '60. Llanwesid ni yn yr oedfa gan ryw ddifrifwch oedd yn ofnadwy. Cychwynasom adref gyda'n gilydd oddiar yr Ystryd Fawr, ond wedi cyrraedd i'r Fron Serth, ychydig allan o'r dref, ymwahanasom oddiwrth ein gilydd, ac aethom adref bob un wrtho ei hun.

Nid oeddym yn gallu dweyd gair y naill wrth y llall, tra y buom gyda'n gilydd, ac yn fuan cerddasom, rhai yn gyflym rhai yn arafach, saith milldir, bob un wrtho ei hun." Er na fuodd Mr. Ellis yn yr un o gyfarfodydd y diwygiad a gynhelid yn Nolgellau, yr oedd un neu ddau eraill o Gorris wedi bod yno. Cyrhaeddodd y diwygiad i Gorris, a buan y daeth y bobl ieuanc i'w deimlo, ac yn eu mysg Mr. Ellis, ac y mae dylanwad y diwygiad hwnnw arno hyd yn awr.

Ni ddylwn anghofio y cymorth a roddir iddo gan ei briod,—merch Mr. John Williams, Moss Bank,—yr hon a briododd yn 1876. Y mae hi yn wir deilwng o'i theulu dylanwadol a hoff o wneyd daioni.