ofnid Twm o'r Nant yn ei ddydd. Soniais am debygrwydd rhwng Anthropos a Lloyd George. Yr oeddynt yn debyg mewn peth arall hefyd, sef y gallu i wneud peth yn chwerthinllyd a'i ladd felly. Anthropos, Ellis Griffith, Lloyd George,— meddai'r tri hyn ar ddawn halltu a allasai fod wedi iachau llawer ar fywyd cyhoeddus a llenyddol Cymru. Trodd Ellis Griffith--bardd wrth reddf a dawn,—a Lloyd George eu doniau i wleidyddiaeth. Cadwodd Anthropos hi o dan reolaeth fanwl a chanodd i bethau megis seren min yr hwyr a chanwyllbren y capel. Yr oedd yn hollol gywir wrth wneud hynny ond un ochr yn unig i'r dyn oedd yn y gwaith hwnnw. Deuai ambell fflach o'r ddawn gynhenid i'r golwg yn ei ysgrifau. Ysgrifennodd unwaith ar Nainyddiaeth, sef egwyddor fawr
Cân di bennill mwyn i'th nain
Mi gân dy nain i tithau,
ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ei fwynhau ei hun wrth y gwaith. Crafodd rai pobl yn bur agos at y gwaed unwaith neu ddwy. Yr oedd gair yn ddigon iddo weithiau. Soniasom unwaith am ŵr yr oeddym ein dau yn hoff ohono. "Ie," meddai Anthropos yn ystod y sgwrs, wedi ennyd o ddistawrwydd, "ond y mae o yn dipyn o Betsan, hefyd." Unwaith, wrth lywyddu mewn cyfarfod amrywiaethol yn Beulah, yr eglwys yr oedd Anthropos yn fugail arni, dywedodd y cadeirydd, yn ddifeddwl ddigon ac er mwyn cael rhywbeth i'w ddywedyd, y mae'n debyg, fod ganddo gadair fwy cysurus gartref ond ei fod yn hoffi gwneud rhywbeth i gynorthwyo'r achos bach. Gwyddwn ei fod wedi rhoddi ei droed ynddi ac nad oedd ond yn ei haros hi. Daeth ei awr. Diolchodd Anthropos iddo yn foesgar iawn ar y diwedd. "Gŵyr pawb ohonom," meddai, yn ei ddull mwynaf, "fod gan Mr. Cadeirydd gadeiriau lawer adref sydd yn esmwythach na hon. Ond meddyliwch, syr," gan droi at y llywydd di-feddwl- ddrwg, "fel y bydd aml i gennad blin, yn eistedd yn y gadair