Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna yn ddigon digalon ar nos Sul ac yn teimlo fod ei waith yn ofer—meddyliwch fel y bydd hwnnw yn sirioli pan ddywed y blaenoriaid wrtho, fel y maent yn siŵr o wneud, mai dyna'r gadair y buoch chwi, syr, yn eistedd ynddi!" Yr oedd gŵr a fedrai wneud pethau fel yna yn beryglus. Nid wyf yn bwriadu ymhelaethu ar yr ochr yma; casglodd Mr. Llew Owain lawer o'i ddywediadau yn ei lyfr diddorol ar Anthropos yn ei berthynas â Chlwb Awen a Chân. Fy mhwynt i ydyw mai yn y cyfeiriad hwn yr oedd cuddiad ei gryfder ac na roddodd ei llam a'i thramwy i'r ddawn.

Fel llenor y meddyliai y rhan fwyaf o bobl amdano, a bydd gennyf air am hynny ymhellach ymlaen. Hoffwn ddywedyd gair amdano yma fel pregethwr, canys yr oedd yn bregethwr ar ei ben ei hun. Pe dymunasai, gallasai fod yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ond ni chredai hynny ac ni cherddodd y llwybr i boblogrwydd. I'r "lleoedd bach," meddai ef, yr hoffai fyned, i gapeli bach y wlad. Weithiau ni ai i le o gwbl; byddai rhywun wedi troseddu neu ni byddai yn teimlo yn yr hwyl. Weithiau, hefyd, deuai adref ar ganol y Sul am yr un rhesymau—neu ddiffyg rhesymau. Os llwyddid ar dro i'w gael i rai o eglwysi mwyaf y cylch ni fynnai fyned i'r pulpud. Pregethai o'r set fawr, ac nid oes dim sydd yn sicrach o ddifetha pregeth na'i thraddodi o'r set fawr. A dylid ychwanegu, hefyd, y medrai bregethu yn ddigon sâl a diafael.

Ond wedi cydnabod yr holl anfanteision hyn, yr oedd, ar ei orau, yn bregethwr da iawn, hollol ar ei ben ei hun ac yn dra effeithiol. Pan oeddym yn byw yn yr un heol byddai yn hawdd ganddo ddyfod i'm tŷ ddiwrnod neu ddau cyn y Sul y byddai i fod yn Beulah a myned tros amlinelliad o'i bregethau. Gwnai hynny os byddai ganddo feddwl go lew ohonynt; os fel arall y byddai'n teimlo ni welid golwg arno. Yr oedd rhai o'r pregethau a glywais ganddo felly yn wych; yr oedd ganddo