SAMUEL EVANS, 1859-1935.
AR un adeg byddai pobl o bellteroedd byd yn dyfod i Gaernarfon ar eu tro, a theimlem ni oedd yn byw yn yr hen dref y pryd hynny ein bod mewn cysylltiad â llawer o wledydd nad oedd fawr obaith i ni eu gweled byth. Deuai Eluned Morgan, R. J. Berwyn ac eraill o'r Wladfa ag awel y paith gyda hwynt. Ar dro deuai Cymru eraill o fannau mwy dieithr fyth yn Ne America, pobl a dreuliodd flynyddoedd mewn cymoedd anhygyrch yn yr Andes neu ar lechweddau Chili. Weithiau ymwelai Cymro a oedd yn byw yn Jerusalem â ni, ac yr oedd y brodyr Bryan, Edward, Robert a Joseph, Eifftwyr trwy fabwysiad, yn ymwelwyr cyson bob haf. Teimlem y pryd hynny ein bod yn hollol gartrefol yn yr Aifft, yn gynefin a chryn lawer o eiriau Arabeg—gwnaeth Gwynn Jones ddarn o gywydd yn gymysg o Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg ac Arabeg, os nad oedd iaith neu ddwy arall ynddo hefyd,—ac yn gwybod yn dda, trwy glywed, am arferion ei phobl ac awyrgylch yr anialwch. A thrwy y brodyr Bryan y daethum i wybod gyntaf erioed am Samuel Evans, eu cefnder.
Cyn hynny bûm yn dyfalu pwy oedd awdur ysgrifau ar y Dwyrain yn Y Llenor—Llenor O. M. Edwards. Yr oedd yn amlwg fod y rhai hynny yn waith rhywun a wyddai yn bur dda trwy brofiad personol ac anghyffredin am y gwledydd, rhai ohonynt yn wledydd dieithr iawn i'r rhan fwyaf o bobl y Gorllewin, yr ysgrifennai yn eu cylch. Amheuthyn oedd dyfod ar draws peth fel hyn mewn ysgrif yn Y Llenor am Ionawr, 1895:—
Yn nechrau mis Mohram, 1891, yr oeddwn yn Bodjnwrd, tref lewyrchus mewn dyffryn rhamantus a phrydferth ym mynyddoedd Atrac, ar gyffiniau Twrcestan, a hanner y ffordd rhwng Môr y Caspian a Herat. Serch na welodd y