Bodjnwrdiaid erioed ond rhyw dri o Ewropeaid, cefais dderbyniad croesawus iawn ganddynt, a chefais hefyd y fraint o'u gweled yn actio merthyrdod Husein o'r dechrau i'r diwedd. . . Welais i erioed y fath olygfa arswydus. Dôf a difywyd iawn mewn cydmariaeth yw chwareu Oberammergau. Yr oedd y gynulleidfa yn tynnu at bymtheg mil o eneidiau ac yr oedd effaith y chwareu arnynt yn gyfryw ag i'w gyrru yn berffaith wallgof ar adegau. Am oriau maith nid oedd un llygad sych yn y lle,—pawb yn ymddangos fel pe buasent mewn ing a phoen angerddol oherwydd dioddefiadau Husein a'i deulu. Am rai munudau ceid distawrwydd llethol i wrando ar alargan Ali Acbar, y llanc tal a lluniaidd; ar adegau eraill y mae y bloeddiadau a'r crochlefain yn syfrdanol . . . Fel y gallwch feddwl, tipyn yn bryderus yr oeddwn yn teimlo fel yr unig Gristion ynghanol torf anferth o grefyddwyr wedi eu soriant. Gallasai cynddeiriogi gan lidiowgrwydd eu chwerthin neu wenu dan yr amgylchiadau gostio i mi fy mywyd, ac nid peth hawdd yw byw ar gopa uchaf eich gwyliadwriaeth am ddeg awr a hanner. Yr oedd yn dda iawn gennyf pan ddygwyd y chwareu i ben.
Yr oedd hwn yn nodyn newydd; yr oedd Cymro yn rhywle a oedd yn cael profiadau rhyfedd a dieithr—a diddorol dros ben. Pwy ydoedd? Credaf mai Robert Bryan, y bardd a'r cerddor o'r brodyr, a ddywedodd wrthyf mai Samuel Evans, cefnder iddo ef, oedd yr awdur, a chanddo ef y cefais beth o'i hanes.
Ymhen blynyddoedd wedyn deuthum i adnabod Samuel Evans. Yn Neheudir Affrica yr oedd yn byw erbyn hynny, yn gadeirydd y Crown Mine, mwnglawdd aur enwog yn Johannesburg, ac yn cael ei gydnabod yn awdurdod trwy'r holl wledydd ar y farchnad aur. Deuai i Gymru yn lled aml, tuag unwaith yn y flwyddyn ar un adeg, mi gredaf, ac yn ystod rhai o'r ymweliadau hynny y dywedodd beth o'i hanes wrthyf. Clywais bobl yn dywedyd weithiau nad yw Cymry yn bobl anturus, eu bod yn rhy hoff o aros gartref ac nad yw'r môr na mannau gwyllt y ddaear yn apelio atynt. Nid yw