hynny yn gywir; aeth Cymry i bob cwr o'r byd ac i bob antur. Cyfarfûm a chryn nifer o bobl felly o dro i dro, ond efallai mai gyrfa Samuel Evans oedd y ryfeddaf y clywais amdani, o ran amrywiaeth, antur a llwyddiant.
Ganed ef ym mis Chwefror, 1859, yn ffermdy Pant y Garn, ar lethr Cyrn y Brain, ym mhlwy Rhiwabon, sir Ddinbych. Bu farw ei dad pan nad oedd y bachgen ond deuddeg oed. Yr oedd ei fam yn hannu o blwy Llanarmon yn Ial ac yn gyfnither i John Parry, un o wŷr amlycaf Rhyfel y Degwm yn 1886, ac yn chwaer i fam y brodyr Bryan. Cafodd Samuel beth ysgol yn Wrecsam, ond nid llawer, gan fod yn rhaid iddo droi allan i ennill cyn gynted ag y gallai, a chafodd le i gynorthwyo yn swyddfa Hughes a'i Fab. Gwelwyd, y mae'n debyg, ei fod yn fachgen deallus a rhoddwyd y gwaith o ddal copi i ddarllenwr y proflenni iddo. Yno, a phan wrth y gwaith hwnnw, daeth i adnabod Islwyn. Nid oes ddyddiad ar Ganiadau Islwyn, a, gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, ond y mae'n bosibl mai adeg argraffu'r llyfr hwnnw y byddai'r bardd yn troi i mewn i swyddfa'r cyhoeddwyr. Beth bynnag am hynny, cymerodd ddiddordeb yn y bachgen, tybiodd fod deunydd llenor ynddo a chynghorodd ef i ddarllen ac astudio Y Bardd Cwsc. Gwnaeth yntau hynny gyda'r trylwyredd a'i nodweddai, a chadwodd ei gopi, gyda'i nodiadau ar ymyl y ddalen, am flynyddoedd, gyda chanlyniadau diddorol ymhellach ymlaen.
Yn y cyfamser ymroddodd i ddysgu llawfer, yr allwedd i fyd y papurau newydd y pryd hynny, a chyn pen hir, yn 1878, cafodd le ar staff yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon, am gyflog o ddeg swllt ar hugain yn yr wythnos—eithaf cyflog fel yr oedd pethau yr adeg honno. Yr oedd popeth o'r gorau ar yr Herald Cymraeg; yr oedd Samuel Evans wedi arfer ysgrifennu Cymraeg ac wedi ennill ar draethodau mewn