Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Y MAE arnaf ddyled i ddiolch am ganiatâd i ddyfynnu neu am wybodaeth a dyddiadau i Archddiacon Wisbech (yr Hybarch Seiriol J. A. Evans); Mr. Lewis Noel Vincent Evans; Syr Ifan ap Owen Edwards; Mrs. R. W. Williams, Penygroes (am ganiatâd i ddyfynnu o ysgrif ei thad, y diweddar Mr. Evan Evans, Mynydd Llandegai, ar W. H. Williams); a'r Parch. W. A. Lewis, Lerpwl. Cyhoeddwyd yr ysgrifau ar John Bryn Roberts a Thomas Gwynn Jones yn Y Llenor, a diolchaf i'r golygyddion am ganiatâd i'w cynnwys yn y gyfrol hon. Darlledwyd rhannau o'r ysgrif ar Bryn Roberts a diolchaf i'r B.B.C. am ganiatâd i'w hail gyhoeddi. Ymddangosodd rhai o'r pethau yn yr erthygl ar Arglwydd Lloyd George mewn ysgrifau o'm heiddo yn y Liverpool Daily Post, a diolchaf i'r golygydd am ei ganiatâd i'w defnyddio.

Ynglŷn a'r darluniau, diolchaf i Mr. J. L. C. Cecil-Williams, Ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, am ganiatâd i ddefnyddio darluniau Syr Ellis Griffith a Syr Vincent Evans, allan o "Drafodion" y Gymdeithas; i Mrs. Gwynn Jones a Mr. Arthur ap Gwynn am ddarlun Dr. T. Gwynn Jones, i Lady Bowen Thomas am ddarlun John Arthur Price, a dynnwyd ger eglwys Llanfair ar y Bryn; i Mrs. Hilton Jones am ddarlun Robert Bryan; i Mr. A. Stanley Davies am ddarlun y Barnwr Bryn Roberts; i Mr. J. Merfyn