Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eisteddfodau lleol. Ond yr oedd papur Saesneg, y Caernarvon and Denbigh Herald, yn yr un swyddfa a disgwylid i'r bachgen droi ei adroddiadau Cymraeg i'r Saesneg ar gyfer hwnnw, a gorchwyl anodd iawn oedd hynny iddo ef. "Byddwn yn llafurio," meddai wrthyf unwaith, "am oriau efo geiriadur wrth fy ochr, ond golwg go ryfedd oedd ar y Saesneg yn y diwedd." Y mae'n rhaid ei fod wedi meistroli'r Saesneg yn fuan, hefyd, canys yn 1880 cafodd le fel reporter ar bapur yn Swydd Efrog.

Y cam nesaf oedd cael lle, trwy arholiad, fel ysgrifennydd cyfrinachol i Syr Edgar Vincent (Arglwydd D'Abernon wedi hynny) a oedd ar y pryd yn bennaeth Gweinyddiaeth Ariannol yr Aifft. Priodolai Samuel Evans ei lwyddiant y tro hwnnw,—bachgen amrwd ddigon a dibrofiad yn cystadlu â gwŷr a gafodd addysg prifysgol yn Lloegr,—i'w fedr a'i gyflymder yn crynhoi a thalfyrru yr adroddiadau a osodwyd o'i flaen, peth a ddysgodd yn ei waith ar y papurau newydd. Beth bynnag am hynny, i'r Aifft yr aeth, a dyna ddechrau'r cysylltiad â'r Dwyrain a barhaodd am gyfnod lled faith. Yr oedd hyn yn 1883, a chyn pen pedair blynedd yr oedd y bachgen o Bant y Garn yn bennaeth gwasanaeth Gwylwyr y Glannau yn yr Aifft. Nid oedd eto yn ddeg ar hugain oed.

Pan oedd yn dal y swydd honno daeth y Khedive Tewfik Pasha heibio i'r swyddog ieuanc ar ymweliad swyddogol ac aeth gydag ef i'w lety. Yno sylwodd ar ei lyfrau a thynnodd un ohonynt oddiar yr astell. Yr oedd ymylon y dalennau yn yn ddieithr llawn nodiadau, yr oedd iaith y llyfr a'r nodiadau i'r Khedive, a mynnai gael esboniad. "Ac felly," meddai Samuel Evans ymhen llawer blwyddyn, "bu yn rhaid i mi gyfieithu darnau o'r Bardd Cwsc orau y medrwn ac egluro i'r Khedive ystyr rhai o'm nodiadau i fy hun." Y mae'n debyg mai i'r Ffrangeg y bu'n rhaid cyfieithu.