yr oedd yn anodd cael ei well. Medrai chwerthin ambell achos allan o'r llys; gwelais ef yn gwneud hynny fwy nag unwaith. Yr oedd ei watwareg yn ddeifiol a byddai hynny, a threm ei ddau lygad mawr, yn dychryn ambell dyst fel na wyddai ar ba ben yr oedd yn sefyll. Weithiau byddai fel pe yn amcanu at beri i dyst golli ei dymer, ac fel rheol llwyddai yn ei amcan—a byddai'r tyst hwnnw at ei drugaredd wedyn. Byddai ganddo froddegau cofiadwy. "When the lawyer comes in at the door," meddai un tro, mewn achos o dor amod priodas, "love flies out of the window." Mewn achos arall dywedodd: "As your lordship knows, every man in financial difficulties draws large overdrafts on the Bank of Hope."
Un tro, diweddodd areithiwr huawdl iawn ei araith gyda'r geiriau: "Duw a wyr mor annwyl yw Cymru Lân i mi!"
"Y mae Duw yn gwybod," meddai Ellis Griffith wrth gyfaill i mi ar ôl y cyfarfod. "Y mae'n dda nad ydi o ddim yn dweud!"
Dro arall, wrth edrych ar un o'i gyd-aelodau dywedodd wrth un arall," "Does dim posib' fod neb mor dduwiol ag y mae o'n edrych!" Dywedodd Lloyd George wrthyf mai'r unig dro iddo ef glywed Emrys ap Iwan yn pregethu oedd unwaith yn Rhuthyn pan orfodwyd ef ac Ellis Griffith i fwrw'r Sul yn y dref honno gan fod y frawdlys wedi parhau hyd yr wythnos wedyn. Aeth y ddau i wrando ar Emrys, ac yn ystod y bregeth cyfeiriodd yntau at Pharaoh fel "hen grocodil afon y Nilus." Ar hynny dyna Ellis Griffith yn sibrwd yng nghlust Lloyd George, "Mi allai Pharaoh gael iawn am hynny, a hynny heb brofi special damages!" Y mae—neu yr oedd llawer o bethau tebyg ar gof amdano. "Yr oedd" sydd yn iawn, yn ddiamau, canys yr hyn sydd yn rhyfedd am Ellis Griffith ydyw fod ei wlad wedi ei anghofio, i bob pwrpas. Soniwch amdano wrth bobl heddiw a gwelwch ar unwaith nad yw yn ddim ond enw iddynt—os ydyw hyd yn oed yn enw.