Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni welsant ef, ni wyddant ddim amdano, ni chlywsant ddim o'i hanes.

Y mae dwy broblem, a dweud y lleiaf, yn hanes gwleidyddol diweddar Cymru. Y naill ydyw dylanwad aruthrol—nid yw yn air rhy gryf—Tom Ellis ar un adeg, a'r llall ydyw methiant Syr Ellis Griffith. Nid oes a wnelom a'r gyntaf yma, ond hoffwn wneud awgrym neu ddau ynglyn a'r ail. Beth oedd cyfrinach methiant gŵr mor ddisglair, mor hoffus ar lawer cyfrif, a gŵr a gafodd y fath fantais a'r fath gyfle?

Am Fôn y byddai pawb ohonom yn meddwl pan sonid am Ellis Griffith ond yn Birmingham y ganed ef, yn 1860. Gŵr o Feirion oedd Thomas Morris Griffith, ei dad, a'i fam o Fôn, a phan ymneilltuodd ei dad o'i fusnes fel adeiladydd yn Birmingham aeth y teulu i fyw i Fôn. Yno y magwyd Ellis Griffith a dyna ei gefndir. Tŷ Coch oedd enw'r cartref, rhwng glan afon Menai a Brynsiencyn. Bu Ellis Griffith yng Ngholeg Aberystwyth yn yr un to o efrydwyr a Tom Ellis, Syr S. T. Evans a Syr John Edward Lloyd; cymerodd ei radd ym Mhrifysgol Llundain—nid oedd Prifysgol Cymru mewn bod eto—ac aeth ymlaen i Gaergrawnt, i Goleg Downing. Yn 1886 yr oedd yn Llywydd yr Undeb yno. Graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn cyfraith a hanes ac etholwyd ef yn Gymrawd y Coleg. Cymerodd ran pur amlwg ym mywyd y coleg a'r Brifysgol; bu nid yn unig yn llywydd yr Undeb ond hefyd, yn 1886, yn llywydd pwyllgor mabolgampau ei goleg, gan gystadlu mewn amryw bethau. Galwyd ef i'r Bar yn 1887.

Yr adeg honno yr oedd cryn nifer o Gymry ieuanc yn troi eu hwynebau i gyfeiriad gwleidyddiaeth a'r Senedd, a gwnaeth Ellis Griffith yr un peth. Wedi ymgais aflwyddiannus i ennill un o seddau Lerpwl i Ryddfrydiaeth, dewiswyd ef yn aelod dros Fôn yn 1895, ar ymneilltuad Thomas Palestina Lewis. Bu Môn yn ffodus yn ei phlant tua'r adeg honno, dynion fel