oedd John yn dadlau dros gael ymreolaeth i Gymru ac Iwerddon yr un pryd. Yn ystod rhyfel 1914-18 yr oedd Ellis Griffith yn cefnogi gorfodaeth filwrol yn bur gynnar. Gofynnais iddo ef a'r diweddar Llewelyn Williams, a oedd ar y pryd yn aelod Seneddol dros Gaerfyrddin, drafod y pwnc ar dudalennau'r Goleuad, y naill o blaid a'r llall yn erbyn. Pe buasent wedi cyfarfod ar y llwyfan y mae'n bosibl mai Ellis Griffith fuasai'r trechaf, ond yr oedd Llewelyn Williams yn fwy medrus nag ef ar bapur y tro hwnnw, ac yn llawer nes at farn Cymru yn gyffredinol fel yr oedd ar y pryd. Dylid dywedyd i Ellis Griffith lywio Mesur Datgysylltiad yn fedrus trwy Dŷ'r Cyffredin. Ond rhywfodd yr oedd fel pe wedi colli cyffyrddiad â meddwl gwleidyddol Cymru am rai blynyddoedd. Bu hynny yn golled iddo ef ac i Gymru.
Y mae'n debyg fod y diweddar Ddr. Thomas Charles Williams yn ei adnabod cystal a neb; yn yr ysgrif goffa yn Y Cymro (Dolgellau) cyfeiriodd ef at ei deimladrwydd, ei swildod, a'i duedd i guddio ei wir ragoriaeth. Clywais eraill oedd yn ei adnabod yn well na mi yn dweud rhywbeth tebyg. Gallai dyn feddwl am Ellis Griffith ei fod yn sinic ac nad oedd waeth ganddo am lawer o bethau, ond arwynebol iawn oedd y coegni; nid oedd ond llen i guddio ei deimladrwydd a'i dynerwch. Yr oedd ei gyfeillion yn ei garu. Gwyddent hwy y gellid ymddiried bob amser yn anrhydedd a chywirdeb Ellis Griffith.
Hwyrach iddo gamgymeryd ei lwybr mewn bywyd. Pan oedd ef yn ddyn ieuanc yr oedd drws gwleidyddiaeth yn agor o flaen Cymry tebyg iddo ef o ran oedran a chefndir; denwyd hyd yn oed Owen Edwards i'r cyfeiriad hwnnw am ychydig, ond sylweddolodd ef yn fuan nad oedd ar ei lwybr priod yn y Senedd. "Not here, O Apollo, are haunts meet for thee." O dro i dro aeth llawer o Gymry i'r pulpud, dynion y buasai'n well iddynt fyned i alwedigaethau eraill, yn unig am mai'r