Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

papurau a ddarllenid yr oedd y Times. W. H. Williams a fyddai yn ei ddarllen, a chlywodd Mr. Evan Evans un a fyddai yno yn dweud ei fod wedi meddwl am amser hir mai darllen y Faner y byddai, "gan mor rhwydd a naturiol y darllenai ef yn Gymraeg." Yr oedd cyfieithu felly wrth fynd ymlaen yn gryn gamp.

Bu farw ei dad pan yr oedd W.H. rhwng pedair ar ddeg a phymtheg oed, gan adael ei fam gyda deg o blant i'w magu. Wynebodd yntau yr amgylchiadau fel y buasid yn disgwyl iddo wneud, yn garedig ac yn ddewr. Bu streic yn y chwarel yn 1874 a chymerodd beth rhan yn honno, gan wneud argraff ddofn ar ei gydweithwyr. Yn streic 1896 daeth i amlygrwydd mawr, yng ngeiriau Mr. Evans, "fel un o'r arweinwyr doethaf a diogelaf a fu gan weithwyr Gogledd Cymru". Meddai y diweddar John Williams, 'Rynys, yn ei fraslun ohono a gyhoeddwyd adeg y streic: Mae yn gynhenid am wrthod pob swydd gyhoeddus, ac nid oes gennyf gyfrif i'w roddi am ei gyhoeddusrwydd presennol os nad ydyw Rhagluniaeth wrth ei benelin ac wedi sibrwd yn ei glust Os tewi a son a wnei, a'i wthio i'r adwy.' Y mae'n wir na feddyliodd ef erioed am fod yn ddyn cyhoeddus, ond yr oedd y fath gymhwysterau ynddo fel yr oedd yn amhosibl iddo fod yn guddiedig."

"Yn y drafodaeth fawr ar yr hawl i gyfuno," ychwanega Mr. Evans, "y ceir ei weled yn ei ogoniant. Fe brofodd ei hun yn y drafodaeth hon yn arweinydd doeth a diogel a'i fod yn sefyll ar ei ben ei hun ymhlith ei gyd-weithwyr. Credwn y bydd i'r hyn a wnaeth yr adeg hon gael lle amlwg yn hanes Llafur yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Y mae ennill hawl i uno yn un o gerrig milltir pwysicaf hanes Llafur. Yn y frwydr hon daeth ei gryfder, ei benderfyniad a'i welediad clir i'r golwg. Yr oedd yn gwbl argyhoeddedig mai dyma'r cam cyntaf i'r gweithwyr ei sicrhau, sef gwneud achos un yn achos pawb, er dod i mewn i'w holl ragorfreintiau fel gweithwyr