Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr oedd wedi cyfarfod llawer o wŷr enwog. Diddorol oedd ei glywed yn pwyso a chymharu Tom Ellis a Lloyd George, er enghraifft. Yr oeddwn i'r pryd hynny yn llawn brwdfrydedd dros Lloyd George a dywedais na buasai Tom Ellis, pe cawsai fyw, wedi cyrraedd i'r fath enwogrwydd a dylanwad. Eithr ni chytunai W.H., a welodd lawer iawn ar y naill a'r llall.

"Pe gofynnech chi gwestiwn i Tom Ellis a George ar yr un adeg," meddai, "George fyddai yn ei ateb gyntaf ac mi fyddai yn ei ateb yn well na Tom, hwyrach. Ond pe buasech chi'n gofyn yr un cwestiwn i'r ddau drannoeth, yn yr un fan yn union y buasai George y pryd hynny, ond mi fuasai Ellis wedi gweled ymhell i'r cwestiwn ac yn rhoi ateb llawer llawnach a gwell na'r llall." Nid wyf yn cofio clywed neb arall yn dweud yr un peth, ond y mae gennyf barch mawr i farn W. H. Williams.

Ei hoff bregethwr a'i hoff awdur ar faterion Beiblaidd a chrefyddol oedd David Charles Davies, gŵr ysgolheigaidd yn meddu ar feddwl miniog, dadansoddol, pregethwr a ddywedodd nad oedd yn credu iddo achub neb erioed ond ei fod yn gobeithio ei fod wedi adeiladu'r eglwysi. Ar ddiwinyddiaeth, David Charles Davies oedd y gair olaf gan W.H. Yr oedd yn wirioneddol grefyddol; yr oedd y capel a'i drefniadau yn wir bwysig yn ei olwg a bu am flynyddoedd yn flaenor doeth a ffraeth ym Mynydd Llandegai. Ond ni ofnai feirniadu'r trefniadau a'r syniadau. "Y mae pobol yn annog ac yn annog pobol eraill i fynd i'r ysgol Sul," meddai wrthyf un tro, "ond waeth i chi heb os ydi'r diddordeb wedi darfod, tasech chi'n annog am dragwyddoldeb. Fedrwch chi wneud dim heb ddiddordeb. Diddordeb ydi amod cyntaf pob gwaith." Yr oedd ef ei hun yn athro ffyddlon yn yr ysgol Sul.

Yn wleidyddol, y cyfnod pan oedd Rhyddfrydiaeth Cymru yn tynnu tua terfyn ei goruchafiaeth a Phlaid Llafur yn ymddangos ar y gorwel pell oedd ei gyfnod ef. Ar lwyfan