Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhyddfrydol, yn siarad o blaid Ellis Davies, y gwelais ac y clywais ef gyntaf erioed, ac yn siarad yn wych iawn, yn ymresymu yn glir ac yn argyhoeddiadol, heb ymfflamychu dim ac yn trin ei ffeithiau fel meistr. Rhyddfrydwr Radicalaidd ac Undebwr y buasid yn ei alw y pryd hynny, mi gredaf. Yn y cyfnod hwnnw byddai Rhyddfrydwyr megis Ellis Davies a Syr Henry Jones a gwŷr Llafur megis Philip Snowden yn dyfod yn eu tro i annerch y chwarelwyr yn eu Gŵyl Lafur flynyddol oddiar yr un llwyfan ac yr oedd chwarelwyr Arfon yn pleidleisio i William Jones a Bryn Roberts ac Ellis Davies ac yn selog dros Lloyd George.

Daeth newid, a newidiodd—neu yn hytrach, symudodd W.H. efo'r amseroedd. Efallai nad oedd yn Sosialydd yn llawn ystyr y gair hyd y diwedd ond i'r graddau yr oedd Radicaliaid yn Sosialwyr yn ei gyfnod ef. Ar ddiwedd cyfarfod Ramsay MacDonald yng Nghaernarfon flynyddoedd yn ôl gofynnodd y diweddar Pentir Williams i mi, "Be' ddeudodd o heno nad oeddan ni yn i ddeud o ugain mlynedd yn ôl, ond ein bod ni yn fwy eithafol?" Ond yr oedd W. H. Williams yn Undebwr i'r carn ac o'r safle honno yr edrychai ar wleidyddiaeth i raddau pur bell. Os oedd Undebiaeth Llafur yn myned trosodd i wersyll y Sosialwyr ai yntau gyda hi, pa amheuon bynnag a allai fod yn ei feddwl wrth fynd. A cheid agweddau annisgwyl ym meddwl y Radical a'r blaenor Methodus a'r gwerinwr hwn. Yr oedd yn glaf ac wedi ei gaethiwo i'r tŷ yn ystod y rhan fwyaf, beth bynnag, o ryfel 1914-18—bu farw yn 1917—a byddwn yn myned i edrych amdano weithiau. Ar un o'r troeon hynny aeth yn sgwrs am y gwrthwynebwyr cydwybodol a rhyfeddais glywed yr hen arweinydd yn eu condemnio yn ddiarbed. Ni fynnai wrando ar air o'u plaid. "Na, na," meddai yn ei ddull mwyaf pendant, "os ydi dyn yn derbyn manteision a nodded gwlad y mae o'n rhwym o'i hamddiffyn hi hefyd. A 'does geno fo