cerrig a llidiart fel llidiart y mynydd, a chawod yn myned heibio. Y gawod, a llwyddiant yr arlunydd yn dangos y tywyllwch a'r golau, y cwmwl du-las a'r clwt o awyr las, a wnaeth y darlun yn un cofiadwy; gallech deimlo crawcwellt y ffridd yn wlyb dan eich traed, gweled y clawdd cerrig yn diferu ar ôl y gawod ac ochr y mynydd yn disgleirio trwy'r glaw. Edrychodd Robert Bryan a minnau yn hir ar y llun hwnnw a Tim Evans yn dywedyd drachefn, fel pe buasai siarad wrtho ei hun, "Ydi, y mae Cymru'n anodd."
Yr oedd yr olygfa yn y tŷ'r noson honno yn nodweddiadol o Robert Bryan. Byddai ganddo rywbeth neu rywun i'w ddangos i chwi bob amser. Weithiau darn o gerddoriaeth a gyfansoddodd ef ei hun a fyddai, ac ai trwy'r scôr ar y piano. Dro arall byddai ganddo gasgliad newydd o'i farddoniaeth, a darllenai rai o'r cerddi. Weithiau byddai yn frwd ei ganmoliaeth i lyfr neu ysgrif a ddarllenasai, ac weithiau hefyd byddai yr un mor frwd ei gondemniad ar lyfr neu sefydliad neu berson. Ond nodwedd amlycaf Robert Bryan oedd ei gariad at y cain mewn llenyddiaeth a chelfyddyd, ei ddiwylliant eang, a'i gariad eirias at Gymru ac at yr iaith Gymraeg.
Buasai ef, yn ddiamau, yn disgwyl i mi ddywedyd mai ei nodwedd amlycaf oedd ei ddawn fel cerddor neu ei athrylith fel bardd, ond ni byddai dywedyd hynny yn gywir. Yr oedd yn gerddor, ac yr oedd yn fardd ac yn llenor, eithr nid oes llawer o'i gerddoriaeth na'i farddoniaeth wedi byw. Ni pherthyn i mi ddywedyd dim am ei gerddoriaeth; gallaf yn hawdd gredu ei bod yn dwyn yr un nodau a'i farddoniaeth. Dengys honno feddwl diwylliedig a choeth, eang ei ddiddordebau, a gallu i drin mydr a geiriau yn gwbl ddidramgwydd. Prin y gellir dweud mwy na hynny. Yr oedd ei gyffyrddiad ysgafn yn well na'i waith mwy uchelgeisiol; ceir pertrwydd mewn cân fel A Ddeui di Allan, sydd yn peri i ni feddwl y buasai'n well iddo fod wedi taro'r nodyn hwnnw yn amlach.