Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond ofer yw dyfalu. Nid Robert Bryan a fuasai pe buasai wedi gwneud hynny. Gwaith fel a wnaeth a'i denai ef, ac yn hwnnw y gwelir y dyn.

Gŵr o Lanarmon yn Ial ydoedd. Ganed ef Medi 6, 1858. Cafodd addysg dda, ond llesteiriwyd ei gwrs fwy nag unwaith gan waeledd iechyd. Bu'n athro ysgol am gyfnod ond bu'n rhaid iddo roddi'r gwaith heibio oherwydd cyflwr ei iechyd. Yr oedd gaeafau'r wlad hon yn greulon wrtho, ac yn fuan ar ôl i'w frodyr ymsefydlu yn yr Aifft dechreuodd yntau fyned i'r wlad honno pan fyddai'r hydref yn dangos ei ddannedd yma. Y mae hanes y brodyr yn ddiddorol. Yr oedd tri ohonynt heblaw Robert, sef John, yr hynaf, Edward, a Joseph. Ar un adeg bu John ac Edward yn cadw siop yn y Bont Bridd, Caernarfon; aeth Joseph i Goleg Aberystwyth.

Torrodd iechyd John i lawr a pherswadiwyd ef gan ei gefnder, Samuel Evans, a oedd yn dal swydd bwysig dan lywodraeth yr Aifft, i fyned i'r wlad honno i geisio adferiad. Yr oedd llawer o bobl yn myned i'r Aifft i geisio adferiad iechyd y pryd hynny. Bu Tom Ellis yno, a chlywais Samuel Evans yn dywedyd iddo fyned ag ef i hela ewigod yn anialwch Libya unwaith. Aeth John Davies Bryan i'r Aifft a gwelodd gyfle i sefydlu masnach yno. Rhoddwyd y gorau i'r siop yng Nghaernarfon ac aeth Edward at ei frawd i'r Aifft. Cyn bo hir bu farw John a gadawyd Edward a Joseph i ofalu am y fasnach. Gwŷr penderfynol a diofn oedd y ddau; yr oedd Edward yn ddyn byr, cydnerth a phendant ei ddull; yr oedd Joseph yn dalach ac yn fwy hamddenol ei ddull, ond mor benderfynol a'i frawd. Yr oedd cryn lawer o duedd yr ysgolhaig yn Joseph a chymerai'r ddau frawd ddiddordeb byw ac agos mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Llwyddodd eu masnach yn fawr. Daeth eu penderfyniad i'r amlwg yn gynnar ar eu gyrfa yn yr Aifft. Penderfynasant mai un pris sefydlog oedd i fod yn eu siop hwy a chafwyd