trafferth di-ben-draw i argyhoeddi'r Dwyreinwyr eu bod o ddifrif. Bargeinio oedd arfer y Dwyrain, a chlywais Edward Bryan yn dweud fel y daeth Pasha at y siop, gyda'i gerbyd gwych a'i osgordd o weision, i brynu bag lledr. Mynnai gynnig llai na'r pris; gwrthododd Edward ostwng yr un ddimai, ac aeth y gŵr mawr ymaith yn ffrom. Ymhen deuddydd neu dri daeth yn ei ôl, yn barod erbyn hynny i roddi'r pris, ond yr oedd y bag wedi ei werthu i rywun arall. Yr oedd yn rhaid anfon am un yr un fath, a gwnaed hynny. Pan ddaeth hwnnw, mynnai'r Pasha fargeinio drachefn! Aeth blynyddoedd heibio cyn i'r bobl gredu nad oedd waeth heb fargeinio yn siop Davies Bryan, ond y brodyr a drechodd yn y diwedd ac yr oedd y peth yn hollol nodweddiadol ohonynt, o'u gwydnwch a'u penderfyniad. Gwŷr syml a diymhongar iawn eu dull oeddynt, gyda dynoliaeth gadarn, barn gydbwys, a gwelediad pell yn nodweddion amlwg ynddynt. Yr oedd gan y naill a'r llall gryn lawer o hiwmor, hiwmor direidus, nodweddiadol Gymreig. Yr oeddynt yn wŷr nodedig yn eu ffordd. Y mae gan y Parch. W. A. Lewis ysgrif ddiddorol ar y brodyr yn Y Ford Gron, Mehefin, 1935.
Pan ddeuthum i'w hadnabod yr oeddynt ymhlith masnachwyr mwyaf llwyddiannus yr Aifft, gyda siopau yn Cairo, Alexandria, Khartum, ac, mi dybiaf, ym Mhort Said. Cofiaf glywed y diweddar Syr William Preece yn dywedyd mor falch oedd o weled masnachdy yng Nghairo tebyg i un o siopau mwyaf Llundain a gwybod mai Cymry o Gaernarfon, ei dref enedigol ef ei hun, oedd wedi codi'r busnes ac yn ei reoli. Enillodd y brodyr enw da am eu cywirdeb ymhlith holl genhedloedd cymysg y rhan honno o'r Dwyrain; gwyddai pawb y gellid ymddiried yn eu gair ac yn eu gweithred. Ac enillasant yr enw hwnnw fel Cymry ac i Gymru, canys gwyddai pawb mai Cymry oedd y brodyr Bryan. Cymraeg oedd eu prif iaith ymhlith yr amryw ieithoedd a siaradent, Cymru'r