Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel a'r Ysgol Sul oedd eu cefndir, a mawr a fu eu croeso a'u caredigrwydd i'r Cymry a ddeuai i'r Aifft ar eu tro ar hyd y blynyddoedd, ac yn enwedig yn ystod y rhyfel mawr cyntaf.

Fel y dywedwyd, bregus ddigon oedd iechyd Robert a threuliodd y rhan fwyaf o'i aeafau yn yr Aifft, gan ddyfod yn ôl i Gymry yn yr haf. Byddai'r ddau frawd arall a'u teulu—oedd yn dyfod i Gymru hefyd, bob haf, Edward Bryan un flwyddyn a Joseph Bryan y flwyddyn wedyn. Nid oedd yn rhyfedd yn y byd fod cefndir dwyreiniol i lawer o ganu Robert Bryan a bod swyn iddo yn hen wlad yr Aifft. Crwydrodd lawer i'r anialwch ar ei ben ei hun, astudiodd hynafiaethau'r wlad, dysgodd Arabeg, a llwyr feddiannwyd ef gan swyn yr hyn a alwai yn oleuni'r Dwyrain. Mawr a fyddai ei ddirmyg at y rhai a soniai am "wyll y Dwyrain"; "Goleuni," meddai, "ydyw nodwedd y Dwyrain, goleuni tanbaid yr haul o awyr ddigwmwl." Braidd na thybiech chwi weithiau ei fod yn edrych ar y Dwyrain fel math o eiddo personol, ac nad oedd gan neb arall hawl i siarad nac ysgrifennu llawer amdano. Credaf ei fod yn gwybod cryn lawer am hynafiaethau'r Aifft, gwelodd lawer o'r hen feddau a'r temlau, a dringodd y pyramidiau; yn ddiamau rhydd y cyffyrddiad hwn a'r Dwyrain liw a diddordeb yn ei ganu. Yr oedd ganddo rywbeth i'w ddweud am yr Aifft, ond teimlwn yn aml y buasai wedi ei ddywedyd yn well ac yn fwy effeithiol mewn rhyddiaith. Yn wir, teimlaf fod ei ryddiaith bob amser yn well na'i farddoniaeth, er y gwn na fynasai ef gredu hynny am bris yn y byd. Yr oedd ganddo gyffyrddiad ysgafn a chryn lawer o hiwmor yn ei ryddiaith; deuai ei ddawn dychan i'r golwg weithiau.

Anffawd Robert Bryan yn llenyddol oedd ei fod yn cloffi rhwng deufyd. Ni allai gŵr o'i allu a'i ddiwylliant ef ymwrthod yn gyfangwbl a'r ddysg a'r dylanwadau newydd a oedd yn ail-lunio llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod hwnnw,