Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galed y gweithiem ac er lleied ein tâl. Credem ni, yn gam neu yn gymwys, ein bod yn gwneud ein hôl ar fywyd Cymru, ac wrth edrych yn ôl, ymhen blynyddoedd wedyn, dywedodd Gwynn i'w brofiad yn yr hen swyddfa fod yn un hapus.

"Nid hyfryd iawn fuasai fy mhrofiad i ers blynyddoedd," medd, yn ei ysgrif ar jiwbili'r Genedl, yn 1927, "rhwng caled-waith a gwaeledd iechyd, ac nid hawdd i mi fyddai anghofio'r gwanwyn pan ddeuthum i gysylltiad â pherchenogion, golygyddion a gweithwyr Y Genedl y cyfnod hwnnw. Y mae'n debyg bod cryfhad iechyd unwaith eto yn adfywio hyder a gobaith, ond yr oedd ymddiried, caredigrwydd a chydweithrediad yn llawn cymaint o gysur. Dynol, ac nid masnachol a pheiriannol yn unig, oedd ein cysylltiad â'n gilydd yn y dyddiau hynny, ac yr oeddym i gyd eto yn hanner heulog yr yrfa."

Gwelais yn lled fuan nad oedd y pellter a'r oerfelgarwch y sylwais arnynt gynt yn ddim ond pethau ar yr wyneb. Yr oedd yno urddas, urddas a oedd yn rhan gynhenid ohono, ac ni allai oddef hyfder anghwrtais. Yr oedd yno dymer, hefyd, a fyddai yn berwi trosodd ar adegau, a gair chwyrn, cyrhaeddgar, a thro dirmygus ar y gwefusau dan y mwstas trwm. Yn y dyddiau hynny dywedai bethau a darfai rai am enwadau ac am bregethwyr. Clywais gwyno y byddai weithiau, os na byddai pregeth wrth ei fodd, yn darllen neu yn ysgrifennu. Ni wn a oedd hyn yn wir, ond gwn na allai oddef rhai mathau o ffyliaid yn llawen. Cafodd y gair ei fod yn ddigrefydd (y mae'n rhaid gwybod rhywbeth am awyrgylch a chefndir bywyd Cymru yr adeg honno i ddeall yn iawn paham), er na bu nam erioed ar ei gymeriad a bod ei fywyd ar ei hyd yn un o'r rhai puraf. Ond mentrai feddwl drosto ei hun a llefaru, a dychrynodd rhai. Ni bûm yn cydweithio ag ef yn hir yn yr ystafell fach cyn dywedyd wrtho ei fod yn sicr o ddiweddu ei yrfa fel blaenor gyda'r Methodisitiaid. Gwnaeth ddau