Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lygad mawr arnaf am eiliad ac yna chwerthin. Ni allai wadu; yr oedd y traddodiad yn ei waed, ac ni allech chwithau fod yn hir yn ei gwmni heb adnabod y dull o feddwl ac o edrych ar bethau. Agwedd y Piwritan oedd ei agwedd ef at fywyd yn y bôn. Nid gŵr digrefydd oedd y dyn a oedd yn un o gyfeillion agosaf Alafon.

Peth arall a ddaeth i'r golwg yn fuan oedd cefndir yr awyr agored. Mab i amaethwr oedd Gwynn fel finnau, ac er ei fod ddeuddeng mlynedd bron yn hŷn na mi, eto cawsom brofiad o fywyd cyffelyb ac edrychem ar lawer o bethau o'r un cyfeiriad. Yn wir, am bethau felly y siaradai yn fwy o lawer nag am lenyddiaeth, ac, yn sicr, yn fwy o lawer nag am ei waith ei hun. "Dalen o lyfr gwybodaeth Gwynn fab Iwan," meddai, yn album fy mhriod, lawer blwyddyn yn ôl bellach, "gŵr a fu amaethwr gynt eithr a werthodd ei fraint ac a aeth i wneuthur papurau newyddion, Duw a faddeuo iddo." Carai faes a ffridd a mynydd; gwyddai am brydferthwch cudd gwrych a mân flodau ochr y ffos; ymhyfrydai yng nghampau ambell gi, gallai gynnal sgwrs â mochyn, sgwrs a oedd, gellid tybio, yn ddiddorol iawn i'r naill ochr a'r llall, gwelais ef yn galw nifer o foch ar draws cae trwy wneud sŵn wrth y llidiart, ac er na fedrai, fel y medrai Alafon, ddenu aderyn o'r llwyn, gwyddai yn dda amdanynt hwythau ac yr oedd yn adnabod eu cân. Nid canu gwneud oedd ei ganu natur ef.

A haen ledrith niwl hydref
Yn hug rhwng daear a nef,
Ag ambr wawl dros gwm a bryn
Trwyddo fal gwrid rhuddfelyn,—


darllenodd y llinellau yna i mi newydd iddo eu hysgrifennu, a chofiais innau ar unwaith am y diwrnod y gwelsom y peth, yn rhywle yng nghyffiniau hen Felin Bodrual. Etifedd cenedlaethau o amaethwyr Hiraethog a Chwm Penamnen,—