Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd Angharad Jâms ymhlith ei hynafiaid ac yr oedd felly yn perthyn i'r un teulu â John Jones, Talsarn, y gŵr a feithrinodd ei ddawn yn unigrwydd Nant y Tylathau—oedd Gwynn. Ar y sylfaen gadarn honno yr adeiladwyd popeth arall a oedd ynddo.

Ffrwyth sylwadaeth uniongyrchol oedd ei ganu natur. "Ni ddisgrifiais i erioed olygfa onid a welais," meddai mewn llythyr ataf, "ni chwbl ddychmygais olygfa erioed. Byddaf yn cymysgu, ond rhaid i mi gael deunydd a welais a'r llygaid." Yr oedd ei lygaid yn gweled llawer na welai'r sylwedydd cyffredin ac yr oedd ganddo'r athrylith i ddisgrifio yr hyn a welai, ond yr oedd yn ostyngedig iawn wyneb yn wyneb â natur; "Ni waeth beth a ddywedo'r dychmygwyr clodwiw," medd yn yr un llythyr," . . . ni fedrant hwy na neb arall ddychmygu dim byd yn debyg i weithredoedd natur wedi'r cwbl."

Credai ef, yn ddiamau, mai'r awyr agored oedd ei briod amgylchedd ac mai oddi wrth natur y tynnai ei rin a'i nerth. Mewn llythyr ataf yn 1912 soniodd am "yr hen Ossian- Macpherson os mynnwch,-a'r hen feirdd Gwyddelig, meib- ion Natur wyllt ardderchog, heb angen to uwch eu pennau, a'u gwallt yn gynefin a gwynt y nos!" Yna a ymlaen: "Na, ni bu farw rhamant erioed. Allan y mae hi, a rhaid i ni wrth ambell ddyrnod gan Natur fel y gorffo arnom droi ati oddi wrth fân gampau dyn yr antimacasser a'r het silc, y llyfrau meirwon a'r gelfyddyd ddi-fywyd, ac y goleuo ein llygaid unwaith yn rhagor fel llygaid plant gan lawenydd y byd byw! Ie, fel y dysgom iaith a anghofiasom ac y deallom seiniau a aeth yn ddieithr i'n clustiau ers llawer dydd. Ac wedyn? Wel, dyna'r rhyddid mawr. Ni osodir cadwyn amdanom mwy. Daeth arnom fawr dawelwch bywyd. Gwelsom ef yn gwyro'i ben yn ddistaw ac yn ddirwgnach ac yn hardd yn yr hydref, ac yn cyfodi drachefn, mor ddistaw, mor ddirwgnach