Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac mor hardd, yn y gwanwyn. Ni alarodd yn chwerw ac ni lawenychodd tros fesur." Ac yna daw brawddeg hollol nodweddiadol o ochr arall i Gwynn Jones. "Ni wybu ddim," meddai, "am y dymer lenyddol nag am orchestion y gohebydd lleol!" Ni ellir deall barddoniaeth Gwynn yn iawn heb ddeall fod ei wreiddiau yn y pridd. Y mae'r grug a'r eithin yn y cefndir o hyd.

Cofiaf am enghraifft ddigrif braidd o hynny. Daeth Gwynn atom i aros a threfnais i fyned am dro ar draws caeau'r Parciau gydag ef a chyfaill arall. Nid oedd hwnnw erioed wedi gweled Gwynn Jones; yr Athro Gwynn Jones oedd iddo ef, ac yr oedd yn yswil wrth feddwl am fod yn ei gwmni. Cefais dipyn o waith ei berswadio i ddyfod, ond yr oeddwn yn awyddus iawn am i ddau o'm cyfeillion gorau gyfarfod ei gilydd, a chychwynnwyd am dro. Ar y cyntaf yr oedd fy nau gyfaill yn hynod foesgor ac urddasol; "Doctor," meddai'r naill; "Proffesor," meddai'r llall. Gwelwn nad oedd dim i'w ddisgwyl y ffordd honno. Llwyddais i droi'r sgwrs ar rywbeth ynglŷn â bywyd gwlad, a daeth y meiriol yn y man. Yn rhywle ar y llwybr hwnnw, wedi cyrraedd tua hanner y ffordd, yr oedd fy nau gyfaill yn uno i ganu hen rigwm a ddaeth i gof Gwynn

Peidied neb â bod yn ddig
Wrth Ddafydd Dene am ddwyn y cig;
Eisiau bwyd oedd ar y bol
Pan aeth y cig i ffwrdd o'r drol,
Mor gynnar yn y bore, &c., &c.


Yr oedd cof Gwynn yn llawn o bethau fel yna a byddai yn eu hadrodd â goleuni direidus yn ei lygaid ardderchog. Un tro yr oedd fy mhriod yn canu'r hen gainc, "Molawd y Brâg," allan o "Alawon fy Ngwlad" Nicholas Bennett, ar y piano. "Rydw i'n cofio clywed canu honna yn Nyffryn Clwyd