erstalwm," meddai Gwynn yn sydyn, ac ar ôl ychydig feddwl cofiodd y geiriau hefyd. Dyma hwy fel y canodd Gwynn hwynt y noson honno, flynyddoedd lawer yn ôl:
Gŵr tŷ tafarn, y bwlcyn tew,
Pen fel llwynog a bol fel llew;
Jwg dwy ddolen a dwbl bêg—
Yn enw dyn! ac yn ara deg.
O, gwrw da, ti wy'n garu ore,
O, gwrw da, ti wy'n garu ore,
Ti yw 'nifyrrwch yn hwyr ac yn fore,
O, gwrw da!
Yn wir, medrai wneud pethau fel yna ei hun pan fyddai alw amdanynt—rhigymau am ddigwyddiadau a phobl leol, a baledi oedd yn dynwared tinc yr hen faledi pen-ffair i'r dim. Mewn gair, yr oedd Gwynn Jones, fel pob dyn mawr, yn amlochrog ac yn bersonoliaeth gyfoethog a diddorol. Yr oedd yr awyrgylch yn newid pan ddeuai ef i'r cwmni. Gallai eistedd am oriau weithiau heb ddywedyd llawer, ond yr oedd yn un o'r bobl braf hynny sydd yn medru bod yn ddistaw heb yn eich tarfu. Teimlech mai am ei fod yn ddedwydd yr oedd yn ddistaw, nid am ei fod yn annifyr ei fyd. Dro arall byddai yn llathennu yn bur drwm ar y peth yma neu'r peth arall, ac yn dweud pethau a ymddangosai yn eithafol os na byddech yn sylwi ar y direidi yn ei lygaid. Ar un adeg cymerid yn ganiataol gan lawer mai gŵr chwyrn ydoedd. "Y mae Gwynn Jones yn rhoi ambell gic go eger yn yr ysgrif yna," meddai rhywun wrth Anthropos unwaith. "Ydi," meddai Anthropos, "fydd Gwynn byth yn sgrifennu heb ei 'sgidiau am ei draed." Y gwir, wrth gwrs, oedd fod rhyw fawrfrydigrwydd tadol yn elfen gref iawn ynddo, a bod honno yn cryfhau fel yr heneiddiai. Yr oedd yn garedig at feirdd a llenorion ieuainc, os na byddent, yn ei eiriau ef, yn ormod o lanciau, ac yn dyner (byddwn yn meddwl ei fod yn rhy dyner weithiau) ei feirniadaeth