Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar eu gwaith. Bu yn rhaid iddo ymladd yn erbyn llawer o anawsterau ar ddechrau ei yrfa a dioddef cryn lawer o feirniadaeth anwybodus a hurt. Magodd yntau fath o gragen galed er diogelwch iddo ei hun a chredodd mai ymosod oedd y dull gorau i'w amddiffyn ei hun. Ni chofir erbyn hyn am y gwrthwynebiad chwerw i'r "Ysgol Newydd" a'u gwaith, nac am y pethau ffôl ac angharedig a ddywedid amdanynt, ond dylid sylweddoli y bu yn rhaid i bobl fel Gwynn Jones a Silyn Roberts a W. J. Gruffydd ymladd am eu lle. Fel yr oedd yn heneiddio ac yn ennill ei le daeth yr elfen dadol, garedig, yr elfen naturiol a oedd yn Gwynn, yn fwy i'r golwg. Ni byddai neb y byddwn yn falchach o'i weled pan fyddwn yn wael, er enghraifft; yr unig anfantais ynglŷn â hynny oedd y byddai ef bob amser yn llawer iawn mwy pryderus yn fy nghylch nag y byddwn i ynghylch fy nghyflwr fy hun. Gwelais ef yn ffarwelio â mi â dagrau lond ei lygaid fwy nag unwaith.

Gallech feddwl ei fod yn ddidaro iawn ynghylch rhai pethau, ac yr oedd felly ar ryw ystyr. Yr oedd yn rhaid i chwi ei gymryd fel yr oedd. Dyma enghraifft. Flynyddoedd yn ôl yr oedd yn aros gyda ni. Amser cinio un diwrnod dywedodd yn sydyn ei fod wedi addo mynd i'r Ysgoldy, i gael te gydag Alafon. Aeth,—ac ni welsom ef am dridiau na chlywed gair oddi wrtho. Yr oeddem yn adnabod Gwynn, ac am hynny yn cymryd peth felly yn ei gwrs. Ond y tu ôl i fân bethau fel yna yr oedd dynoliaeth gyfoethog, gref. Nid yw'r bobl sydd yn meddwl am feirdd fel creaduriaid gwyllt, anghyfrifol yn adnabod beirdd mawr. Buasai cystal gennyf gael cyngor Gwynn ar fater o waith bob dydd neu ymddygiad â neb y gwyddwn amdano; yr oedd yn fanwl a meddylgar ynghylch y pethau a oedd yn cyfrif, ac yma drachefn yr oedd y cefndir gwledig yn amlwg. Barn ac agwedd y gwladwr oedd yr eiddo ef. Wrth drafod rhywbeth gydag ef teimlwn fel pe buaswn yn siarad ag un o amaethwyr pwyllog, hirben Ardudwy neu