Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hiraethog; yr un oedd yr agwedd at ddynion ac at fywyd. Dywedodd ef ei hun, mewn sgwrs un diwrnod, mai "ffarmwr gogoneddus" oedd Dr. John Williams, Brynsiencyn. Dyna oedd yntau, y naill yn cynrychioli Môn ar ei gorau a'r llall yn ddarn o fywyd Hiraethog—pobl y meysydd eang a'r grug a'r eithin.

Ychydig, fel rheol, a siaradai am ei farddoniaeth. Weithiau rhoddai argraff arnoch ei fod yn ddibris o'i farddoniaeth o'i chymharu â'i ysgolheictod; gallai hynny fod am fod ei ysgolheictod wedi costio llafur mawr iddo ac mai dawn Duw oedd ei athrylith fel bardd. Beth bynnag am hynny, yr oedd ei reddf fel ysgolhaig yn rhan o'i fawredd fel bardd hefyd; gosododd ei safon yn uchel a chadwodd y safon honno yn rhyfeddol o gyson, fel bardd ac fel llenor, ar hyd yr yrfa. Dirmygai'r llacrwydd a'r rhwyddineb a fu ac y sydd yn fagl i gynifer o lenorion, ac yr oedd, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn feirniad llym ar ei waith ei hun mewn barddoniaeth. Hwyrach nad oedd llawn mor fanwl ynghylch ei ryddiaith, er y dylid cofio i gryn lawer o'i waith gael ei ysgrifennu ar gyfer papurau newyddion ac mewn brys. Y mae'n rhaid cofio mai mewn swyddfeydd papurau newyddion y cafodd y rhan fwyaf o'i hyfforddiant, a'i fod yn newyddiadurwr profiadol a medrus, prydlon a threfnus ei waith bob amser, ac yn medru ysgrifennu yn dda ac yn gyflym pan fyddai yn rhaid wrth gyflymder.

Ac wrth sôn am y rhan yma o brofiad Gwynn Jones, credaf ein bod yn cyffwrdd ag un o'r dylanwadau pwysig a fu arno. Gŵyr pawb am ddylanwad Emrys ap Iwan arno ond ni chofir cymaint am ddylanwad Daniel Rees. Ef oedd golygydd yr Herald Cymraeg a phapurau eraill y swyddfa honno pan ymunodd Gwynn â'r staff. Gŵr o Sir Benfro oedd Daniel Rees, gŵr tal, du ei bryd, sarrug ei wedd, ac annibynnol iawn ei