geisio dywedyd pa fath un ydoedd. Rhyw deirgwaith neu bedair yn fy oes y cyfarfûm â dynion y teimlwn eu bod yn ddynion mawr yng ngwir ystyr y gair, ac unwaith bûm yng nghwmni dau o'r dynion hynny gyda'i gilydd. Douglas Hyde oedd y naill a Gwynn Jones oedd y llall—dau ddyn mawr yn ddiddadl. Dyna fel yr hoffaf feddwl am Gwynn heddiw, personoliaeth fawr, dyn cariadus, naturiol cyfaill teimladwy a gŵr y gallech fod yn gwbl sicr amdano ei fod yn bur a diddichell.
Flynyddoedd yn ôl galwodd i'm gweled ar ei ffordd adref o Ddinbych, os wyf yn cofio'n iawn. "Fedrwch chi wrando am dipyn bach?" meddai, yn wylaidd braidd. Medrwn, a dechreuodd yntau ddarllen:
Wylai cyfeiliorn awelig yn llesg yn yr hesg a'r llwyni,
Nos, dros y bryniau dynesai, dydd, ymbellhai dros y don.
Aeth ymlaen hyd y diwedd, y tro cyntaf erioed i mi glywed Madog, a'r tro cyntaf, efallai, i Gwynn ei darllen yn uchel ar ei hyd. Gafaelodd y stori ynom ein dau; yr oedd dagrau yn ei lygaid ef ac, efallai, yn fy llygaid innau pan gyrhaeddwyd y diwedd, ac yna trodd Gwynn ataf yn sydyn. "Be' fedrech chi 'neud efo fo ond i foddi o?" meddai. Yr oedd y trawsgweiriad yn hollol nodweddiadol. Y mae yn rhaid ei fod yn gwybod ei fod wedi cynhyrchu un o gampweithiau llenyddiaeth Gymraeg, cyffyrddwyd ei deimladau ef ei hun a gwyddai gyffwrdd fy rhai innau. Ond nid oedd am ymhelaethu ar hynny a daeth â ni yn ôl i'r ddaear yn sydyn gyda'i gwestiwn
Yr unig anghydwelediad o bwys a fu rhyngom ynglŷn â'i waith erioed oedd na allwn oddef ei glywed yn bychanu Ymadawiad Arthur. Tueddai i wneud hynny weithiau, a minnau yn credu, fel y credaf heddiw, fod gwlith a phrydferthwch y bore ar y gerdd honno hyd byth. Ynglŷn