ei wybodaeth am hanes Cymru na helaeth na chywir. Cofiaf fy siom pan glywais ef yn siarad oddiar y Maen Llog am y tro cyntaf, yn eisteddfod Caernarfon yn 1906. Nid oedd ganddo ddim i'w ddywedyd.
Ond y mae gennyf atgofion eraill. Y tro diwethaf yn 1939—y bu'n siarad ym mhafiliwn Caernarfon prin yr oedd y lle yn fwy na hanner llawn, er ei fod i siarad ar y rhyfel. Cofiwn innau am gyrddau mawr 1909 a 1912 pan fyddai'r adeilad, a ddaliai ar ei orau tua deng mil, nid yn unig dan ei sang ond hefyd yn llawn o bobl a oedd wedi gwthio i fyny i'r distiau ac yn eistedd yng nghilfachau'r to. Deuai pobl yno yn lluoedd o holl siroedd y gogledd a byddai cynulleidfa fawr o'r tu allan fel rheol, wedi methu myned i mewn.
Yr oedd y wefr a'r cynnwrf a deimlir pan fo nifer mawr o bobl wedi ymgasglu yn cerdded trwy'r lle fel trydan a sŵn y dorf, yn canu neu yn siarad, fel sŵn dyfroedd lawer ac yn fy atgoffa am yr agoriad i Meistersinger Wagner—sŵn dylifiad pobloedd, llawenydd a chynnwrf a chyffro tyrfa yn cadw gŵyl, ond yn barod i wneud rhywbeth arall o dan gyffyrddiad hudlath y swynwr. Codai'r cyffro yn uwch o hyd fel y parhai'r disgwyl, miloedd o lygaid yn gwylio'r llwyfan, miloedd o ddwylo yn barod i guro, miloedd o leisiau yn barod i'w dyrchafu. Ac yna y llanw yn torri tros y glannau pan welid Lloyd George yn dyfod i'r golwg trwy ddrws ochr y llwyfan—pawb ar ei draed, pawb yn gwaeddi, pawb yn chwifio rhywbeth nesaf i law a'r twrw yn fyddarol o bob cyfeiriad nes i rywun, oddiar y llwyfan fel rheol, daro tôn y byddai mynd arni ar y pryd ac i'r bloeddio droi yn ganu.
Yng nghanol y sŵn a'r brwdfrydedd cerddai Lloyd George i'w gadair gyda'i gam pendant. Yr oedd ei wallt yn britho'n drwm y pryd hynny a braidd yn hir er nad cyn hired ag y bu wedyn. Yr oedd ei wên—ac yr oedd y wên ddireidus, chwareus honno yn rhan pur fawr o'i ddylanwad ar y dyrfa—