Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf 1910 teimlai'r Prif Gwnstabl, y diweddar Cyrnol Ruck, un o hen deulu Pant Lludw, ger Machynlleth, braidd yn anesmwyth ynghylch pethau, a gofynnodd am gynhorthwy tua hanner cant o blismyn o Fanchester. Cafodd hwynt—Saeson talgryf, profiadol, oedd y rhai a welais i ohonynt, heb ddeall yr un gair o'r iaith a siaredid gan y bobl a oedd yn dygyfor o'u cwmpas trwy'r dydd. Gwelwyd y pethau arferol—miloedd o bobl, gorymdeithio diflino, canu a bloeddio a'r cwbl yn ddigon diniwed ag eithrio torri ffenestri clwb y Toriaid. Yr oeddis wedi hoelio planciau ar draws y ffenestri ac wedi gosod rhes o blismyn ar y palmant i'w gwylio. Ond dangosodd yr ymosodwyr—pobl o'r wlad o gwmpas ac ardaloedd y chwareli gan mwyaf yr un medr ag a ddangoswyd gan lawer ohonynt ymhen ychydig flynyddoedd ar feysydd rhyfel Ewrop a Gallipoli. Rhuthrodd un neu ddau o'r dynion lleiaf rhwng y plismyn, gan wyro yn isel, a chael gafael ar blanc neu ddau, eu tynnu yn rhydd, a llithro'n ôl rhwng y plismyn at eu cyfeillion ar yr heol. Bellach yr oedd gan y dyrfa ddau blanc hir a chryf; gwanwyd y rhai hynny rhwng y plismyn yn syth i'r gwydr a malwyd y ffenestri yn deilchion. Ni anafwyd, ac ni cheisiwyd anafu, neb.

Newydd i hyn ddigwydd siaradwn ag un o blismyn Manchester yn ymyl y Guild Hall. "I'd clear this street in five minutes if we were in Manchester," meddai. Dywedais fy mod yn amau a wnai hynny yng Nghaernarfon y noson honno, ond yr oedd yn bendant iawn ar y pwynt a gadewais ef, canys gwyddwn rywbeth am dymer y Cymry a oedd o'n cwmpas. Aethum i'r tŷ am swper ac yna i lawr i'r dref drachefn. Yr oedd y dyrfa mor fawr ac mor frwd ag erioed; yr oedd plismyn sir Gaernarfon a Sir Fôn yn sefyll yma a thraw yn rheoli'r cwbl yn ddigon distwr; "'Rwan, hogiau bach, peidiwch a phwyso ar y ffenestri," meddai un ohonynt, a'r hogiau bach yn ufuddhau yn siriol. Ond nid oedd yr un o'r