Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanner can plisman a ddaeth yno o Fanchester i'w weled—dim ond ambell helmet yn chwifio ar flaen ffon ambell fachgen o chwarelwr. Clywais wedyn mai yr hyn a ddigwyddodd oedd iddi fynd yn daro rhwng y dyrfa a'r estroniaid, fod yr hen deimlad rhwng Cymry a Saeson wedi deffro, a bod yr holl blismyn dieithr wedi eu gorfodi, yn eithaf cwrtais, fel y clywais, i gerdded i lawr i orsaf y plismyn dan ofal y dyrfa ac wedi cael gorchymyn caeth i aros yno. Trannoeth, "yn drist a distaw," aeth y plismyn estron adref, amryw ohonynt heb eu hetiau.

Dyna'r fath ysbryd a oedd yn bod yn nyddiau dylanwad mawr Lloyd George yng Nghymru. Yr oedd i'r peth ei ragoriaethau a buasai yn dda cael ychydig o'r pendantrwydd a'r brwdfrydedd hwnnw heddiw i wrthwynebu llawer o bethau sydd yn digwydd, yng Nghymru a mannau eraill. Eithr yr oedd iddo ei beryglon amlwg hefyd, a'r amlycaf ohonynt oedd y duedd gynyddol i adael i Lloyd George feddwl a gweithredu drosom, a cholli pob gallu i feddwl ac i feirniadu drosom ein hunain. Trodd y brwdfrydedd a welodd yn Lloyd George arweinydd cenedlaethol i genedl fechan yn waseidd-dra cwbl anfeirniadol pan drodd yr arweinydd i gyfeiriadau eraill, a gwelwyd pobl a oedd yn credu eu bod yn rhyddfrydol ac yn Gristnogion yn ddistaw ynghylch y Black and Tans yn Iwerddon yn unig am mai Lloyd George oedd y Prif Weinidog ac am ei fod ef, yn enwedig mewn araith yng Nghaernarfon, wedi amddiffyn polisi a wnaeth i enw Prydain ddrewi yn ffroenau'r byd gwareiddiedig. Dyna'r ochr arall i'r darian. Y tro diwethafi mi weled Lloyd George yr oedd yn hen ŵr methedig. Digalonnai am Gymru. "Anodd iawn ydyw cael yr aelodau Cymreig i uno i wneud dim dros Gymru," meddai.

" 'Does gan lawer ohonyn' nhw ddim syniad o gwbl am Gymru fel