Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwn. "Na," meddai, "ddim i'w gymharu a Cheiriog ac Eben Fardd." Nid oedd waeth heb ddadlau. Credai yr un fath am bregethwyr. Pregethwyr yr oes o'r blaen oedd ei arwyr. Medrai adrodd darnau o bregethau John Jones, Talsarn, a glywsai gan ei ewythr, Richard Lloyd; edmygai Dr. John Hughes, Caernarfon a Dr. Herber Evans, ac hiraethai am glywed yr hen dinc ym mhregethu heddiw. Un Sul eisteddwn gydag ef pan oedd y diweddar Barchedig Phillip Jones, Porthcawl, yn pregethu ar y radio. Yr oedd yr hen bregethwr yn tiwnio yn braf, yn ei ddull nodweddiadol ef. Distawodd, ac edrychais ar y cyn—Brif Weinidog. Yr oedd ei lygaid yn nofio mewn dagrau: "Mi gafodd afael arna' i," meddai. "Y mae'r hen dinc yn cael gafael arna' i bob amser." Ysgrifennodd gerdyn yn y fan a'r lle at Phillip Jones i'w longyfarch ac i ddiolch am "yr hwyl Gymreig ar ei gorau." "Seiniwch o," meddai, gan ei estyn i mi ar ôl torri ei enw arno. Ufuddheais, er fy mod yn credu y byddai'r pregethwr yn dyfalu bore drannoeth paham fod eisiau dau enw ar y cerdyn.

Y bore hwnnw, cyn dyfod yn ôl i wrando ar y bregeth, buom o gwmpas y ffarm. Yr oedd Lloyd George y pryd hynny yn ŵr deunaw a thrigain a minnau ugain mlynedd yn iau nag ef, ond blinais yn cydgerdded ag ef y bore hwnnw. Torrasom ar draws caeau mawr a thrwy wrychoedd tewion, edrychasom ar filoedd o goed afalau a gwsberins, rhoddasom dro ar genfaint ar ôl cenfaint o foch, gan holi achau rhai ohonynt yn fanwl. Yr oedd Mŵg, y ci, gyda ni, a mynnai gael cryn lawer o'i ffordd ei hun. "Tydi o'n gwrando fawr ar gyn-Brif Weinidog," meddwn, pan oedd Mŵg yn fwy clust-fyddar nag arfer. "Nac ydi," meddai ei feistr, "ond, o ran hynny, pwy sydd yn gwrando ar gyn-Brif Weinidog?" Efallai fod ias o dristwch yn y dywediad.