yn credu y buasai Asquith wedi bodloni i hynny. "Onid chwi oedd y symbylydd tua'r chwith o'r blaen?" meddwn.
"Ie," meddai, "a fedrwn i ddim gwneud hynny tra 'roeddwn i yn bennaeth y Coalisiwn. Ac hwyrach eich bod yn iawn—'toedd yno neb arall i wneud hynny ar y pryd. Mi fuasai Asquith wedi sefyll wrth fy nghefn pe buaswn i mewn safle i symud—yr wyf yn bur sicr o hynny. Safodd wrth fy nghefn, yn erbyn pob aelod arall yn ei Gabinet, fwy nag unwaith gyda chyllideb 1909." Ei farn bendant oedd fod y Blaid Ryddfrydol wedi colli cyfle mawr ac nid wyf yn credu fod ganddo lawer o ffydd yn ei dyfodol—fel plaid.
Siaradem y tro hwnnw yn Churt am y rhyfel. Yr oedd hynny yn nechrau 1940 a'r gwaethaf heb ddatblygu eto. Ni chredai fod y rhyfel yn angenrheidiol, neu, efallai y buasai yn fwy cywir dywedyd y credai y gallesid bod wedi ei hosgoi. Credai fod ar Hitler a Ribbentrop eisiau rhyfel, eithr credai hefyd fod yn yr Almaen ar y pryd ddylanwadau eraill yn buasai yn erbyn rhyfel a fuasai wedi llwyddo i gario'r dydd pe buasai diplomyddiaeth Prydain wedi bod yn gadarnach. Yr oedd yn chwerw ynghylch hyn.
"Pe buasem wedi sefyll wrth gefn Czechoslovakia," meddai, "buasai Rwsia wedi sefyll ochr yn ochr gyda ni a buasai Hitler wedi ymbwyllo. Ond 'doedd Czechoslovakia ddim yn barchus—yr oedd yn werin-lywodraeth werinol mewn gwirionedd ac yr oedd yn rhaid iddi hi gymryd ei siawns. Yr oedd well gennym ni sefyll wrth gefn pendefigaeth bwdr Poland. A 'doedd dim gobaith i Rwsia ddwad efo ni'r ffordd honno." Diddorol yw cymharu ei farn ar hyn ag eiddo Mr. Winston Churchill yng nghyfrol gyntaf ei lyfr diwethaf.
Trwy'r cwbl, yr oedd yn amlwg fod Lloyd George yn edmygu rhai o'r pethau a wnaed yn yr Almaen o dan Hitler—y gwelliannau cymdeithasol a oedd yn rhedeg ar yr un llinellau a rhai pethau yn ei bolisi yntau. Y noson honno yn Churt