gwelais y ffilmiau a gymerwyd yn ystod ymweliad Lloyd George a'r Almaen ac a Hitler ychydig flynyddoedd cynt, darluniau byw iawn o'r ddau yn cyfarfod ei gilydd ac yn cael te gyda'i gilydd, gyda Ribbentrop ac eraill yn y cefndir. Yn y lluniau hyn yr oedd Hitler yn chwifio ei ddwylaw yn ddi-baid ac, yn ôl pob golwg, yn siarad o hyd. Edrychai i mi fel dyn hollol niwrotig a gofynnais a oedd yn gwingo felly mewn gwirionedd ynteu a oedd rhywbeth yn y llun yn cyfrif am y peth, ond dywedodd Lloyd George ei fod yn hynod aflonydd. Ychydig a ddywedai ef wrth edrych ar y lluniau, ond dywedodd ar y diwedd y dylesid bod wedi rhybuddio dictatoriaid Ewrob ar y dechrau a pheidio gadael iddynt gasglu grym a oedd yn eu gwneud yn beryglus.
Clywais ddywedyd amdano ei fod yn dal dig. Dywedodd wrthyf nad oedd hynny yn wir. "Y mae'n anodd iawn gennyf gasau pobl ar ôl eu cyfarfod," meddai un tro, ac aeth ymlaen i ddweud nad oedd waeth ganddo ef os byddai dyn yn agored yn ei erbyn (yr oedd y papurau yr oeddwn i ynglŷn a hwy ar y pryd wedi bod yn feirniadol iawn ohono, ac efallai fod ergyd i mi yn y dywediad). "Gall dyn gredu, os myn, fy mod yn dwad o'r pwll diwaelod," meddai.
"Ac yn myned yn ôl yno," meddwn innau.
"Ie," meddai, "efo'r mwg a'r brwmstan o 'nghwmpas i! Mi wn i lle i gael dyn felly, a fydda' i ddim dicach."
Nid oeddwn yn tybio ei fod yn ei ddarlunio ei hun hollol gywir; yr oedd yn bur ddidostur tuagat wrthwynebydd a oedd ar ei ffordd, ond credaf ei fod yn gywir cyn belled a hyn, rhan o'r frwydr oedd yr ymosodiad ar wrthwynebwyr iddo ef, ac "wedi elwch tawelwch fu." Nid oedd yn dal dig, yn enwedig os credai y gallai ddefnyddio'r beirniad o'i blaid mewn cyfeiriad arall. Cefais enghraifft bersonol o hynny. Fel y dywedais, bu'r Genedl a'r North Wales Observer, a gyhoeddid yng nghanol ei etholaeth, yn feirniadol iawn ohono