Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan oedd yn Brif Weinidog. Ceisiais ymatal rhag unrhyw ymosodiad personol ond yr oedd yn amhosibl cefnogi llawer peth yn ei bolisi'r pryd hynny, ac yr oedd yn rhaid siarad yn blaen iawn ar y polisi Gwyddelig. Cafwyd dynion fel y diweddar Athro David Williams ac eraill nad oeddynt yn arfer cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth i wrthdystio yn erbyn y polisi hwnnw, a gwyddwn fod Lloyd George wedi teimlo, yn enwedig am fod y feirniadaeth yn dyfod o'i wlad a'i etholaeth ef ei hun. Nid oedd hynny ond peth naturiol.

Wedi iddo beidio a bod yn Brif Weinidog daeth achlysur i mi ei weled ar ddiwrnod pan oedd yn annerch cyfarfod mawr yn Llandudno. Gofynnodd i mi ei weled yn y neuadd ar ôl y cyfarfod ac aethum i'r cefn ar ddiwedd yr araith gan feddwl y cawsem funud neu ddau mewn ystafell y tu cefn i'r llwyfan i drafod y pwnc dan sylw. A chan mai hwn oedd y tro cyntaf i ni gyfarfod ar ôl y beirniadu a fu arno nid oeddwn yn sicr iawn pa fath dderbyniad a gawswn. Ni buasai yn rhaid i mi bryderu. Yr oedd yn sefyll ynghanol tyrfa o bobl pan aethum ato; daeth i'm cyfarfod gyda gwên siriol, gafaelodd yn fy mraich a dywedodd: "Dowch efo mi i'r stesion. 'Does yna ddim amser na llonydd i siarad yn y fan yma."

Ac felly y bu—myned allan i wyneb tyrfa fawr, frwdfrydig, fraich ym mraich, mynd i'r stesion yn y car gydag ef a Dame Margaret, hi yn holi hanes perthynas a fu yn yr ysgol gyda hi, ac yna, wedi cyrraedd y stesion, cerdded yn ôl a blaen, fraich ym mraich fyth, i drafod y mater dan sylw nes ei bod yn amser cychwyn. Nid myfi yn bersonol oedd yn cael y derbyniad ond y papurau. Y mae'n rhaid i mi ddweud na soniodd air erioed wrthyf am y feirniadaeth a fu ac ni chefais ddim ond croeso ganddo bob tro ar ôl hynny. Yn wyneb hyn, y mae'n anodd gennyf gredu ei fod yn dal dig er ei fod yn taro yn drwm yn y frwydr.