Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn hynod o ddifloesgni ac hyd yn oed yn anwyliadwrus i bob golwg wrth draethu ei farn am gyfoedion a chydaelodau. "Mi wnaiff ddyn bach digon defnyddiol yn ei enwad," meddai am ŵr yr oedd ganddo uchelgais mwy o lawer na hynny. "Dyn oedd———" meddai am bregethwr enwog, "oedd yn meddwl ei fod o'n athronydd, a 'toedd o ddim." "Pwy sydd yna yn y fan a'r fan heddiw?" meddai un tro, yn sôn am drefniadau gwleidyddol neilltuol, ac yn cymharu heddiw a'r dyddiau gynt. Enwais un gŵr lled amlwg. "Ie," meddai, "the resources of civilisation are not exhausted, ond y mae hi'n bur agos os ydi hi wedi dwad i hynna!" Ar y llaw arall, nid oedd yn brin o ganmoliaeth i rai; taerai nad oeddwn yn gwneud dim tebyg i chwarae teg â William Jones, a fu yn aelod dros Arfon. "Yr oedd William yn ddyn galluog iawn," meddai, "ac yn areithiwr mawr. "Dyn dewr ydyw Herbert Lewis," meddai dro arall. "Y mae'n gas ganddo ffrae a thwrw, ond er hynny mi aiff iddynt os bydd o'n credu ei bod yn ddyletswydd arno fynd. Nid oes gennyf fi wrthwynebiad mawr i dipyn o gyffro ac nid yw yn costio llawer i mi fynd i'w ganol, ond y mae yn costio i Herbert, ac y mae ganddo y dewrder prin hwnnw sydd yn wynebu Ar y cyfan, prin pethau y mae yn eu casau yn ei galon." oedd ei ganmoliaeth ddigymysg i unrhyw un; byddai yn cofio fel rheol fod rhywbeth ar ôl.

Yn ystod deng neu ddeuddeng mlynedd olaf ei oes y deuthum i gyffyrddiad personol gweddol agos a Lloyd George, er fy mod wedi ei gyfarfod droeon o'r blaen yng nghwrs fy ngwaith; nid oes gennyf atgofion personol amdano ym mlynyddoedd ei egni mwyaf. Ond yr oedd yn fwy egniol pan yr oedd ymhell dros drothwy'r deg a thrigain na'r rhan fwyaf o ddynion hanner ei oed. Y bore yr oeddwn yn gadael Churt, wedi cael ymgom ag ef am ei jiwbili seneddol, daeth i lawr yn ei byjamas a'i dressing gown i'm hebrwng at y drws. Yr