Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ganddo sigar fawr yn ei geg a cherddai yn ôl ac ymlaen ar hyd a lled yr ystafell yn meddwl am bethau ychwanegol yr oedd arno eisiau ei dywedyd yn yr ymgom. Edrychai yn ŵr llawn bywyd ac ynni ac yr oedd yr hen ddawn i beri i chwithau deimlo yn egniol a bywiog yno o hyd, y ddawn bwysig neilltuol iawn a oedd mor amlwg ynddo. Yn y blynyddoedd nesaf sylwais, wrth ei weled yn yr eisteddfod-bu yno ddwy- waith ar ôl 1939—fod y blynyddoedd yn gadael eu ôl arno. Yr oedd y fflam yn dechrau suddo.

Gwelais ef am y tro diwethaf yn y Tŷ Newydd, Llanystumdwy, ym mis Ionawr, 1945, rhyw ddeng wythnos cyn ei farw. Yr oedd y cyfnewidiad yn drychinebus ar yr olwg gyntaf yr hen dân wedi diffodd, yr hen ynni wedi llwyr ddarfod. Yr oedd wedi teneuo yn ei gorff ac yn ei wyneb—yr oedd yr wyneb wedi newid yn fwy na dim—ac nid oedd y meddwl cyn gyflymed a chynt. Soniai am yr hen ardal ac am ei phobl, am helyntion y byd ac am ei deitl newydd yntau. "'Dwn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch heddiw," meddwn. "A ydych yn Iarll Lloyd George o'r diwrnod yr hysbysir am y peth ynteu a oes yn rhaid aros am ryw seremoni?" Atebodd gyda'r hen bendantrwydd ei fod yn dechrau o'r hysbysiad cyntaf. A chofio ei fod ef ei hun wedi gwneud cymaint o arglwyddi, teimlwn y dylai fod yn awdurdod ar y pwnc hwnnw.

Y mae'n dda gennyf am un peth a ddigwyddodd yn ystod y prynhawn hwnnw. Aethom i sôn am bregethwyr a gofynnodd a glywswn i Herber Evans rhywdro.

"Naddo, erioed," meddwn innau.

"Yna mi gollasoch glywed yr areithiwr mwyaf a glywais ym mhulpud Cymru," meddai.

Aeth ymlaen i ddywedyd fel y bu'n gwrando ar Herber Evans yn pregethu ar y Beibl yn ardal Llanystumdwy lawer blwyddyn yn ôl. "Yr oedd llawer o ymosodiadau ar ddilysrwydd