1905, yn Llanrug, yn trafod y gwrthryfel Cymreig yn erbyn Deddf Addysg 1902; yr oedd y rhan fwyaf o'i wrandawyr yn frwd o blaid y gwrthsafiad ac wedi eu tanio gan areithiau Mr. Lloyd George, ond yr oedd yn anodd credu llawer yn y peth ar ôl gwrando ar araith Bryn Roberts y noson honno. Ymhen blynyddoedd lawer wedyn dywedodd wrthyf mai gamble oedd y gwrthryfel,' ac nad oedd gan neb hawl i gamblio mewn gwleidyddiaeth. " Rhoddodd y gwrthryfel esiampl o herio deddf gwlad," meddai. "Dilynwyd yr esiampl gan Ulster ymhen ychydig flynyddoedd a chan ferched y bleidlais, a rhwyddhaodd hynny y ffordd i ryfel 1914."
Y tro diwethaf i mi ei weled oedd pan oedd yn hen, hen ŵr, yn angladd Syr John Morris-Jones, ym mynwent Llanfair Pwll Gwyngyll, ar lan Menai. Cerddem trwy'r fynwent gyda'n gilydd a galwodd fy sylw at yr argraff oedd ar garreg las ar fin y llwybr. "Does dim curo ar garreg las," meddai. "Edrychwch ar honna; y mae hi yma ers yn agos i gan mlynedd ac y mae'r llythrennau arni cyn gliried ag erioed." Edrychais arno yntau hefyd, gan feddwl nad oedd y garreg yn ddim ond rhyw bymtheng mlynedd yn hŷn nag ef—ac yr oedd yr argraff arno yntau cyn gliried ag erioed. Y diwrnod hwnnw gwahoddodd fi i ddyfod adref gydag ef yn ei gar, ond yr oedd yn dda gennyf allu dywedyd fy mod yn mynd adref gyda chyfaill arall. Yr oedd Bryn Roberts tua phedwar ugain oed pan ddysgodd yrru motor, a chan ei fod wedi arfer marchogaeth ar hyd ei oes, yr oedd ynddo duedd i drin y car fel pe buasai'n geffyl. Weithiau, mewn cyfwng, byddai yn tynnu yn yr olwyn ac yn gweiddi "We!"
Rhoddodd dros chwarter canrif o'i oes i wleidyddiaeth; bu yn fargyfreithiwr prysur, a diweddodd ei ddiwrnod gwaith fel barnwr yn y Llys Sirol, yn y De i ddechrau, ac yna yn y Gogledd. Bu ar y fainc am tuag ugain mlynedd. Gwn rywbeth am waith caled, a digon anniddorol y rhan amlaf,