Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffordd i ryfel 1914-18. Ac yr oedd gwladweinydd a arweiniodd ei wlad i ryfel wedi pechu'r pechod anfaddeuol ym marn Bryn Roberts. Pan oedd y papurau Saesneg i gyd yn canmol Edward Grey (Arglwydd Grey) gofynnais i Bryn Roberts beth oedd ei farn ef amdano. "A stupid fellow," meddai. "I don't say he didn't do his best to ensure peace when he saw where his policy led him, but he should have seen the inevitable result of that policy from the first." Nid oedd cofiant Arglwydd Rosebery wedi ei gyhoeddi pan ddywedodd Bryn Roberts hyn, ond yn y llyfr hwnnw ceir fod Rosebery wedi dywedyd rhywbeth tebyg pan glywodd am y dealltwriaeth gyda Ffrainc, a seliwyd pan oedd Lansdowne yn Weinidog Tramor ac a fu yn sylfaen i'r polisi tramor Prydeinig o hynny ymlaen.

Yn nechrau 1917 methodd ymatal rhag traethu ei farn am y rhyfel. Yr oedd yn Farnwr ac ni theimlai y dylai roddi ei enw wrth yr ysgrif; cyhoeddais hi yn Y Goleuad am Ebrill 6, 1917, uwch ben yr enw Pax Nobiscum. Y pennawd oedd "Ai Byth?" ac ar y dechrau dyfynnodd yr adnod: "Ai byth y difa y cleddyf? Oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd?"—cwestiwn Abner. Dadleuodd yn feistraidd, gyda llu o ffeithiau ac ystadegau, o blaid gwneud heddwch yn fuan. Disgrifiodd y tlodi a'r caledi a oedd yn rhwym o ddilyn y rhyfel, ac ar y diwedd trodd oddi wrth y canlyniadau economaidd at effeithiau eraill. Dyma frawddegau olaf yr ysgrif: "Y mae cwynfan galarwyr eisioes yn aml yn y wlad; ond os goddefwn i'r blaid ryfelgar gael ei ffordd, bydd y llais a glywyd yn Rama yn dyrchafu o bob stryd a phentref, a bron o bob cartref yn y wlad oblegid bydd nifer y lladdedigion wedi dyblu a threblu cyn i'n byddin gyrraedd i derfyn yr Almaen. Da fyddai gennym oll weled yr Almaen yn cael ei churo i'r llawr, fel yr haedda, ond nid ar draul y fath aberth, os gellir