cael y status quo ante hebddi. Canys pa fodd y gallwn edrych ar y drygfyd a'r tlodi a gaiff ein pobl? A pha fodd y gallwn edrych ar ddifetha ieuenctid ein cenedl? Ai byth y difa y cleddyf?"
Nid oedd dim arwrol yn ei syniad ef ei hun am ei gyflawniadau gwleidyddol. Yr oedd yn farchogwr mentrus ac yn heliwr llwynogod, a dywedodd wrthyf un tro: "Fydda i byth yn neidio dros y gwrych wrth hela nac mewn gwleidyddiaeth os bydd adwy i'w chael." Dro arall, dywedodd: "'Rydw i'n barod i sefyll dros fy egwyddorion hyd ryw bwynt, ond 'tydw ddim yn barod i gerdded ar haearn poeth na dim byd felly drostyn' nhw, chwaith. Wnaed mohonof fi i fod yn ferthyr. Ond 'doedd neb a oedd yn ei adnabod yn credu hynny; buasai rhai yn barod i ddywedyd y buasai ei ystyfnigrwydd cynhenid yn ddigon i'w arwain i dân y merthyr pe bai raid. Clywais un a oedd yn ei adnabod yn dda ac yn perthyn iddo yn taeru na chytunai â neb. "Ac os tybia yng nghwrs y ddadl," ebe hwnnw, "ei fod yn debyg o gytuno â chwi, newidia ei ddadl er mwyn osgoi'r trychineb hwnnw." Tipyn o ormodiaith oedd hynny, y mae'n wir, eithr yr oedd elfen o wir yn y peth hefyd. Clywais amdano, pan oedd yn ddyn cymharol ieuanc, wedi myned gyda'i chwaer i gynhadledd ynglŷn â'r Ysgol Sul, a gynhelid yn y Rhyl. Thomas Gee oedd yn annerch, ac ar ddiwedd y cyfarfod aeth i'r llawr i ofyn am addewid gan bob un yr âi i'r Ysgol Sul o hynny ymlaen. Daeth at Bryn Roberts, a oedd yn hollol ddieithr iddo, a gwrthododd yntau yn bendant roddi addewid o gwbl. Aeth Thomas Gee, gŵr pur awdurdodol, i bwyso arno, ac aeth Bryn Roberts yn fwy pendant fyth yn ei wrthodiad. O'r diwedd methodd ei chwaer â dal. "Oh, Mr. Gee," meddai, "y mae o'n athro Ysgol Sul ac yn arolygwr ers blynyddoedd." Yr oedd hynny yn wir, ond ni fynnai Bryn Roberts gymryd ei wastrodi gan neb. Galwai rhai ef yn granc, ond os oedd yn granc, yna