Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Teimlaf mai darlun heb fod yn atdyniadol a dynnwyd o Evan Jones hyd yn hyn, ac yr oedd ochr felly iddo. Eithr yr oedd agweddau eraill hefyd. Ni allai neb wadu ei fod yn bersonoliaeth neilltuol; yr oedd swyn yn ei wên, yn ei lais, yn ei ddull o lefaru. Yr oedd grym a phwysau yn ei feddwl ac y mae'n ddiamau y buasai wedi gwneud enw iddo ei hun wrth y Bar pe buasai wedi dewis y cyfeiriad hwnnw; buasai yn y werth ei glywed yn croesholi tyst anfoddhaol. Mewn achosion troseddol y buasai ar ei orau yn hytrach nag wrth Far y Sianseri; rhywun fel David Charles Davies a fuasai wedi llwyddo yn y fan honno, gyda'i feddwl dadansoddol, manwl a threiddgar. Wrth drin tystion anhydrin ac wrth apelio at y rheithwyr y buasai Evan Jones ar ei orau; yr oedd yr olwg arno, ei lais a'i watwareg ddeifiol yn ei gymhwyso at y gwaith, a thybiaf iddo yntau, o dro i dro, fwrw golwg hiraethus braidd ar y llwybr nas cymerodd. Bu yn amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru am gyfnod hir, ond y mae'n amheus gennyf a oedd yn wleidydd wrth reddf. Hyd y gwelais i, ychydig o ddiddordeb a gymerai mewn pynciau gwleidyddol ar wahan i ddatgysylltiad ac, efallai, pwnc y tir, er ei fod yn gweled yn bur bell ar adegau. "Y mae hi'n siwr o fynd yn rhyfel rwan, " meddai wedi clywed am yr entente rhwng Prydain a Ffrainc, "y mae nhw wedi dewis eu partneriaid!" Yr oedd Rosebery o'r un farn.

Edrychid arno fel Radical eithafol yn wleidyddol. Mewn gwirionedd, Tori hen ffasiwn oedd ond ei fod yn casáu yr Eglwys fel sefydliad gwladol ac yn gwrthryfela wrth reddf yn erbyn yr hualau ar Ymneilltuaeth. Magwyd ef o dan gysgod Plas Machynlleth, ac yr oedd ganddo gryn lawer o barch hen ffasiwn i arglwyddi tir ac hyd yn oed o duedd i gydnabod eu hawdurdod. Nid oedd ganddo fymryn o gydymdeimlad a'r syniadau cymdeithasol newydd a oedd yn lefeinio Rhyddfrydiaeth ac yn troi yn sylfaen i'r Blaid Lafur yn ystod ei