flynyddoedd olaf ef. Dadleuai unwaith nad oedd yr un dyn heb waith os oedd ganddo galon i weithio; tueddai, megis y gwnai llawer o ddynion ei gyfnod, i edrych ar dlodi naill ai fel rhan anorfod o drefn Rhagluniaeth neu fel canlyniad rhyw ddiffyg neu gamymddygiad yn y dyn ei hun. Yr oeddwn ar y pryd yn olygydd Y Genedl ac yn dadlau bob wythnos o blaid mesurau cymdeithasol, ac yr oedd dirmyg gwatwarus yn ei lygaid a'i lais yntau wrth drafod y dadleuon. "Mi ddowch yn gallach wrth fynd yn hŷn!" meddai.
Yr oedd yn amheuwr wrth natur; ei agwedd gyntaf at bob peth oedd ei gwestiyno. Nid wyf yn bwrw am eiliad nad oedd wedi ei argyhoeddi ei hun o wirionedd y grefydd a bregethai, ond yr wyf yn bur sicr y gallasai hynny fod yn fwy o dasg iddo ef nag i lawer o weinidogion. Yr oedd yn amheus o gymhellion dynion ymhob cylch, yn amheus o bob dysg ac athrawiaeth newydd. Byddai ei wefusau yn troelli a'i lygaid yn ddirmygus wrth wrando ar ambell un; ni thrafferthai i wrthwynebu bob amser, ond yr oedd yr olwg arno yn ddigon. Byddai pob ystum ar ei gorff, pob mynegiant yn ei wyneb cystal a dywedyd mai ffol oedd y sawl a lefarai. "Dywedodd Dafydd," meddai wrthyf unwaith, "Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.' Mi fuaswn i yn dweud yr un peth heb fod yn fy ffrwst. O, buaswn siwr, heb fod yn fy ffrwst!" Hwyrach y buasai dogn o'r amheuaeth yma yn lles i ninnau yng Nghymru heddiw.
Ond yr oedd ochr arall. Edrychid arno yn ei oes fel gelyn pennaf defodaeth ac offeiriadaeth, ond offeiriad oedd yntau wrth reddf. Edrychai fel cardinal yn ei hen ddyddiau, a medrai ymddwyn fel cardinal hefyd. Aeth unwaith i gyfarfod misol dieithr. Derbynid nifer o flaenoriaid newydd a gofynnwyd i Evan Jones eu holi. Gofynnodd iddynt a fedrent Gredo'r Apostolion, ond ni fedrai yr un gymaint a brawddeg. Yna, gan sefyll uwch eu pennau fel un ag awdurdod