Aeth Syr Vincent Evans i Lundain o Drawsfynydd (symudodd y teulu i'r ardal honno o Lanfihangel y Pennant pan oedd ef yn blentyn) yn ieuanc iawn, fel clerc. Ymhen amser penodwyd ef yn ysgrifennydd y Chancery Lane Safe Deposit Co. Yn Chancery Lane yr oedd y swyddfa, ac yno hefyd, uwchben y swyddfa, y bu Vincent Evans yn byw am flynyddoedd, megis mewn uchelgaer uwch llif didor trafnidiaeth Llundain. Ni wn pa bryd yr aeth yno i fyw ond yno y gwelais i ef ac yno y bu hyd y diwedd. Yn ddyn ieuanc daethai i fod yn ŵr pur amlwg ym myd Cymry Llundain, byd sydd yn ei ffordd ei hun llawn mor bentrefol â bywyd unrhyw bentref yng Nghymru. Dechreuodd ysgrifennu, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bu ganddo ysgrifau ar George Eliot a llenorion eraill yn Y Traethodydd; bu'n ohebydd i'r Faner ac yn ohebydd Llundain, mi gredaf, i fwy nag un papur dyddiol Saesneg. Yr oedd yn ohebydd Llundain i'r Brython hyd o fewn ychydig i'r diwedd.
Treuliodd lawer iawn o'i hwyrnosau am gyfnod maith yn lobi, ystafell ginio ac ystafell smocio Tŷ'r Cyffredin. Cyfnod bore Tom Ellis, Lloyd George, William Jones ac Ellis Griffith oedd hwnnw, cyfnod pan gydnabyddid fod y Blaid Seneddol Gymreig yn cynnwys rhai o ddynion galluocaf y Senedd, ac yr oedd Vincent Evans yn eu hadnabod bob un. Nid wyf yn meddwl iddo fwriadu bod yn aelod Seneddol ei hun. Bu si, mor ddiweddar a 1922, y gwelid ef yn ymgeisydd ond gwadodd yn bendant. "Hwyrach," meddai, "y byddwch mor garedig a dweyd yn eich 'papur clodwiw' (dyna'r fel, onide?) nad oes ac na fu rhithyn o sail i'r sibrwd fy mod i yn ymgeisydd am gynrychioli Sir Fôn (nac unrhyw gynrychiolaeth arall) yn y Senedd." Ysgrifennai am yr aelodau â'u gwaith i'r papurau; gwnai hynny yn feirniadol weithiau, ond yr oedd y cyhoeddusrwydd yn werthfawr ffordd bynnag y